Mathew 26:51-54
Mathew 26:51-54 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond yn sydyn, dyma un o ffrindiau Iesu yn tynnu cleddyf allan a tharo gwas yr archoffeiriad. Torrodd ei glust i ffwrdd. “Cadw dy gleddyf!” meddai Iesu wrtho, “Bydd pawb sy’n trin y cleddyf yn cael eu lladd â’r cleddyf. Wyt ti ddim yn sylweddoli y gallwn i alw ar fy Nhad am help, ac y byddai’n anfon miloedd ar filoedd o angylion ar unwaith? Ond sut wedyn fyddai’r ysgrifau sanctaidd sy’n dweud fod rhaid i hyn i gyd ddigwydd yn dod yn wir?”
Mathew 26:51-54 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A dyma un o'r rhai oedd gyda Iesu yn estyn ei law ac yn tynnu ei gleddyf a tharo gwas yr archoffeiriad a thorri ei glust i ffwrdd. Yna dywedodd Iesu wrtho, “Rho dy gleddyf yn ôl yn ei le, oherwydd bydd pawb sy'n cymryd y cleddyf yn marw trwy'r cleddyf. A wyt yn tybio na allwn ddeisyf ar fy Nhad, ac na roddai i mi yn awr fwy na deuddeg lleng o angylion? Ond sut felly y cyflawnid yr Ysgrythurau sy'n dweud mai fel hyn y mae'n rhaid iddi ddigwydd?”
Mathew 26:51-54 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wele, un o’r rhai oedd gyda’r Iesu, a estynnodd ei law, ac a dynnodd ei gleddyf, ac a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ei glust ef. Yna y dywedodd yr Iesu wrtho, Dychwel dy gleddyf i’w le: canys pawb a’r a gymerant gleddyf, a ddifethir â chleddyf. A ydwyt ti yn tybied nas gallaf yr awr hon ddeisyf ar fy Nhad, ac efe a rydd yn y fan i mi fwy na deuddeg lleng o angylion? Pa fodd ynteu y cyflawnid yr ysgrythurau, mai felly y gorfydd bod?