Mathew 26:3-5
Mathew 26:3-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yr un pryd, roedd y prif offeiriaid ac arweinwyr Iddewig eraill yn cyfarfod ym mhalas Caiaffas yr archoffeiriad, i drafod sut allen nhw arestio Iesu a’i ladd. “Ond dim yn ystod yr Ŵyl,” medden nhw, “neu bydd reiat.”
Rhanna
Darllen Mathew 26Mathew 26:3-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna daeth y prif offeiriaid a henuriaid y bobl ynghyd yng nghyntedd yr archoffeiriad, a elwid Caiaffas, a chynllwyn i ddal Iesu trwy ddichell a'i ladd. Ond dweud yr oeddent, “Nid yn ystod yr ŵyl, rhag digwydd cynnwrf ymhlith y bobl.”
Rhanna
Darllen Mathew 26Mathew 26:3-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna yr ymgasglodd yr archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a henuriaid y bobl, i lys yr archoffeiriad, yr hwn a elwid Caiaffas: A hwy a gydymgyngorasant fel y dalient yr Iesu trwy ddichell, ac y lladdent ef. Eithr hwy a ddywedasant, Nid ar yr ŵyl, rhag bod cynnwrf ymhlith y bobl.
Rhanna
Darllen Mathew 26