Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 26:26-44

Mathew 26:26-44 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Tra oedden nhw’n bwyta, dyma Iesu’n cymryd torth, ac yna, ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, ei thorri a’i rhannu i’w ddisgyblion. “Cymerwch y bara yma, a’i fwyta,” meddai. “Dyma fy nghorff i.” Yna cododd y cwpan, adrodd y weddi o ddiolch eto, a’i basio iddyn nhw, a dweud, “Yfwch o hwn, bob un ohonoch chi. Dyma fy ngwaed, sy’n selio ymrwymiad Duw i’w bobl. Mae’n cael ei dywallt ar ran llawer o bobl, i faddau eu pechodau nhw. Wir i chi, fydda i ddim yn yfed y gwin yma eto nes daw’r dydd y bydda i’n ei yfed o’r newydd gyda chi pan fydd fy Nhad yn teyrnasu.” Wedyn, ar ôl canu emyn, dyma nhw’n mynd allan i Fynydd yr Olewydd. “Dych chi i gyd yn mynd i droi cefn arna i heno” meddai Iesu wrthyn nhw. “Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydda i’n taro’r bugail, a bydd y praidd yn mynd ar chwâl.’ Ond ar ôl i mi ddod yn ôl yn fyw, af i o’ch blaen chi i Galilea.” Dyma Pedr yn dweud yn bendant, “Wna i byth droi cefn arnat ti, hyd yn oed os bydd pawb arall yn gwneud hynny!” “Wir i ti,” meddai Iesu wrtho, “heno, cyn i’r ceiliog ganu, byddi di wedi gwadu dair gwaith dy fod di’n fy nabod i.” Ond meddai Pedr, “Na! Wna i byth wadu mod i’n dy nabod di! Hyd yn oed os bydd rhaid i mi farw gyda ti!” Ac roedd y disgyblion eraill i gyd yn dweud yr un peth. Dyma Iesu’n mynd gyda’i ddisgyblion i le o’r enw Gethsemane. “Eisteddwch chi yma,” meddai wrthyn nhw, “dw i’n mynd draw acw i weddïo.” Aeth â Pedr a dau fab Sebedeus gydag e, a dechreuodd deimlo tristwch ofnadwy a gwewyr meddwl oedd yn ei lethu. “Mae’r tristwch dw i’n ei deimlo yn ddigon i’m lladd i,” meddai wrthyn nhw, “Arhoswch yma i wylio gyda mi.” Aeth yn ei flaen ychydig, a syrthio ar ei wyneb ar lawr a gweddïo, “Fy Nhad, gad i’r cwpan chwerw yma fynd i ffwrdd os ydy hynny’n bosib. Ond paid gwneud beth dw i eisiau, gwna beth rwyt ti eisiau.” Pan aeth yn ôl at ei ddisgyblion roedden nhw’n cysgu. A meddai wrth Pedr, “Felly, allech chi ddim cadw golwg gyda mi am un awr fechan? Cadwch yn effro, a gweddïwch y byddwch chi ddim yn syrthio pan gewch chi’ch profi. Mae’r ysbryd yn frwd, ond y corff yn wan.” Yna aeth i ffwrdd a gweddïo eto, “Fy Nhad, os ydy hi ddim yn bosib cymryd y cwpan chwerw yma i ffwrdd heb i mi yfed ohono, gwna i beth rwyt ti eisiau.” Ond pan ddaeth yn ôl, roedden nhw wedi syrthio i gysgu eto – roedden nhw’n methu’n lân â chadw eu llygaid ar agor. Felly gadawodd nhw a mynd i ffwrdd i weddïo yr un peth eto y drydedd waith.

Mathew 26:26-44 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Ac wrth iddynt fwyta, cymerodd Iesu fara, ac wedi bendithio fe'i torrodd a'i roi i'r disgyblion, a dywedodd, “Cymerwch, bwytewch; hwn yw fy nghorff.” A chymerodd gwpan, ac wedi diolch fe'i rhoddodd iddynt gan ddweud, “Yfwch ohono, bawb, oherwydd hwn yw fy ngwaed i, gwaed y cyfamod, a dywelltir dros lawer er maddeuant pechodau. Rwy'n dweud wrthych nad yfaf o hyn allan o hwn, ffrwyth y winwydden, hyd y dydd hwnnw pan yfaf ef yn newydd gyda chwi yn nheyrnas fy Nhad.” Ac wedi iddynt ganu emyn aethant allan i Fynydd yr Olewydd. Yna dywedodd Iesu wrthynt, “Fe ddaw cwymp i bob un ohonoch chwi o'm hachos i heno, oherwydd y mae'n ysgrifenedig: “ ‘Trawaf y bugail, a gwasgerir defaid y praidd.’ “Ond wedi i mi gael fy nghyfodi af o'ch blaen chwi i Galilea.” Atebodd Pedr ef, “Er iddynt gwympo bob un o'th achos di, ni chwympaf fi byth.” Meddai Iesu wrtho, “Yn wir, rwy'n dweud wrthyt y bydd i ti heno, cyn i'r ceiliog ganu, fy ngwadu i deirgwaith.” “Hyd yn oed petai'n rhaid imi farw gyda thi,” meddai Pedr wrtho, “ni'th wadaf byth.” Ac felly y dywedodd y disgyblion i gyd. Yna daeth Iesu gyda hwy i le a elwir Gethsemane, ac meddai wrth y disgyblion, “Eisteddwch yma tra byddaf fi'n mynd fan draw i weddïo.” Ac fe gymerodd gydag ef Pedr a dau fab Sebedeus; a dechreuodd deimlo tristwch a thrallod dwys. Yna meddai wrthynt, “Y mae f'enaid yn drist iawn hyd at farw. Arhoswch yma a gwyliwch gyda mi.” Aeth ymlaen ychydig, a syrthiodd ar ei wyneb gan weddïo, “Fy Nhad, os yw'n bosibl, boed i'r cwpan hwn fynd heibio i mi; ond nid fel y mynnaf fi, ond fel y mynni di.” Daeth yn ôl at y disgyblion a'u cael hwy'n cysgu, ac meddai wrth Pedr, “Felly! Oni allech wylio am un awr gyda mi? Gwyliwch, a gweddïwch na ddewch i gael eich profi. Y mae'r ysbryd yn barod ond y cnawd yn wan.” Aeth ymaith drachefn yr ail waith a gweddïo, “Fy Nhad, os nad yw'n bosibl i'r cwpan hwn fynd heibio heb i mi ei yfed, gwneler dy ewyllys di.” A phan ddaeth yn ôl fe'u cafodd hwy'n cysgu eto, oherwydd yr oedd eu llygaid yn drwm. Ac fe'u gadawodd eto a mynd ymaith i weddïo y drydedd waith, gan lefaru'r un geiriau drachefn.

Mathew 26:26-44 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac fel yr oeddynt yn bwyta, yr Iesu a gymerth y bara, ac wedi iddo fendithio, efe a’i torrodd, ac a’i rhoddodd i’r disgyblion, ac a ddywedodd, Cymerwch, bwytewch: hwn yw fy nghorff. Ac wedi iddo gymryd y cwpan, a diolch, efe a’i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Yfwch bawb o hwn: Canys hwn yw fy ngwaed o’r testament newydd, yr hwn a dywelltir dros lawer, er maddeuant pechodau. Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o hyn allan o ffrwyth hwn y winwydden, hyd y dydd hwnnw pan yfwyf ef gyda chwi yn newydd yn nheyrnas fy Nhad. Ac wedi iddynt ganu hymn, hwy a aethant allan i fynydd yr Olewydd. Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, Chwychwi oll a rwystrir heno o’m plegid i: canys ysgrifenedig yw, Trawaf y bugail, a defaid y praidd a wasgerir. Eithr wedi fy atgyfodi, mi a af o’ch blaen chwi i Galilea. A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Pe rhwystrid pawb o’th blegid di, eto ni’m rhwystrir i byth. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Yn wir yr wyf yn dywedyd i ti, mai’r nos hon, cyn canu o’r ceiliog, y’m gwedi deirgwaith. Pedr a ddywedodd wrtho, Pe gorfyddai imi farw gyda thi, ni’th wadaf ddim. Yr un modd hefyd y dywedodd yr holl ddisgyblion. Yna y daeth yr Iesu gyda hwynt i fan a elwid Gethsemane, ac a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Eisteddwch yma, tra elwyf a gweddïo acw. Ac efe a gymerth Pedr, a dau fab Sebedeus, ac a ddechreuodd dristáu ac ymofidio. Yna efe a ddywedodd wrthynt, Trist iawn yw fy enaid hyd angau: arhoswch yma, a gwyliwch gyda mi. Ac wedi iddo fyned ychydig ymlaen, efe a syrthiodd ar ei wyneb, gan weddïo, a dywedyd, Fy Nhad, os yw bosibl, aed y cwpan hwn heibio oddi wrthyf: eto nid fel yr ydwyf fi yn ewyllysio, ond fel yr ydwyt ti. Ac efe a ddaeth at y disgyblion, ac a’u cafodd hwy yn cysgu; ac a ddywedodd wrth Pedr, Felly; oni allech chwi wylied un awr gyda mi? Gwyliwch a gweddïwch, fel nad eloch i brofedigaeth. Yr ysbryd yn ddiau sydd yn barod, eithr y cnawd sydd wan. Efe a aeth drachefn yr ail waith, ac a weddïodd, gan ddywedyd, Fy Nhad, onis gall y cwpan hwn fyned heibio oddi wrthyf, na byddo i mi yfed ohono, gwneler dy ewyllys di. Ac efe a ddaeth, ac a’u cafodd hwy yn cysgu drachefn: canys yr oedd eu llygaid hwy wedi trymhau. Ac efe a’u gadawodd hwynt, ac a aeth ymaith drachefn, ac a weddïodd y drydedd waith, gan ddywedyd yr un geiriau.