Mathew 26:1-5
Mathew 26:1-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan oedd Iesu wedi gorffen dweud y pethau yma i gyd, meddai wrth ei ddisgyblion, “Fel dych chi’n gwybod, mae’n Ŵyl y Pasg nos fory. Bydda i, Mab y Dyn, yn cael fy mradychu i’m croeshoelio.” Yr un pryd, roedd y prif offeiriaid ac arweinwyr Iddewig eraill yn cyfarfod ym mhalas Caiaffas yr archoffeiriad, i drafod sut allen nhw arestio Iesu a’i ladd. “Ond dim yn ystod yr Ŵyl,” medden nhw, “neu bydd reiat.”
Mathew 26:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan orffennodd Iesu lefaru'r holl eiriau hyn, dywedodd wrth ei ddisgyblion, “Gwyddoch fod y Pasg yn dod ymhen deuddydd, ac fe draddodir Mab y Dyn i'w groeshoelio.” Yna daeth y prif offeiriaid a henuriaid y bobl ynghyd yng nghyntedd yr archoffeiriad, a elwid Caiaffas, a chynllwyn i ddal Iesu trwy ddichell a'i ladd. Ond dweud yr oeddent, “Nid yn ystod yr ŵyl, rhag digwydd cynnwrf ymhlith y bobl.”
Mathew 26:1-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A bu, wedi i’r Iesu orffen y geiriau hyn oll, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Chwi a wyddoch mai gwedi deuddydd y mae’r pasg; a Mab y dyn a draddodir i’w groeshoelio. Yna yr ymgasglodd yr archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a henuriaid y bobl, i lys yr archoffeiriad, yr hwn a elwid Caiaffas: A hwy a gydymgyngorasant fel y dalient yr Iesu trwy ddichell, ac y lladdent ef. Eithr hwy a ddywedasant, Nid ar yr ŵyl, rhag bod cynnwrf ymhlith y bobl.