Mathew 25:25-27
Mathew 25:25-27 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd gen i ofn gwneud colled, felly dw i wedi cadw dy arian di’n saff mewn twll yn y ddaear. Felly dyma dy arian yn ôl – mae’r cwbl yna.’ “Dyma’r meistr yn ei ateb, ‘Y cnaf diog, da i ddim! Dw i’n ddyn caled ydw i – yn ecsbloetio pobl ac yn gwneud elw ar draul eu gwaith caled nhw? Dylet ti o leia fod wedi rhoi’r arian mewn cyfri cadw yn y banc, i mi ei gael yn ôl gyda rhyw fymryn o log!’
Mathew 25:25-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn fy ofn euthum a chuddio dy god o arian yn y ddaear. Dyma i ti dy eiddo yn ôl.’ Atebodd ei feistr ef, ‘Y gwas drwg a diog, yr oeddit yn gwybod, meddi, fy mod yn medi lle heuodd eraill ac yn casglu lle gwasgarodd eraill. Dylit felly fod wedi gosod fy arian yn y banc, a buasai fy eiddo wedi ennill llog erbyn i mi ddod i'w hawlio.
Mathew 25:25-27 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A mi a ofnais, ac a euthum, ac a guddiais dy dalent yn y ddaear: wele, yr wyt yn cael yr eiddot dy hun. A’i arglwydd a atebodd ac a ddywedodd wrtho, O was drwg a diog, ti a wyddit fy mod yn medi lle nis heuais, ac yn casglu lle nis gwasgerais: Am hynny y dylesit ti roddi fy arian at y cyfnewidwyr; a mi, pan ddaethwn, a gawswn dderbyn yr eiddof fy hun gyda llog.