Mathew 24:1-28
Mathew 24:1-28 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Wrth i Iesu adael y deml dyma’i ddisgyblion yn dod ato ac yn tynnu ei sylw at yr adeiladau. “Ydych chi’n gweld y rhain i gyd?” meddai. “Credwch chi fi, bydd y cwbl yn cael ei chwalu, a fydd dim un garreg wedi’i gadael yn ei lle.” Yn nes ymlaen, pan oedd Iesu’n eistedd ar ochr Mynydd yr Olewydd, daeth ei ddisgyblion ato yn breifat a gofyn, “Pryd mae beth oeddet ti’n sôn amdano yn mynd i ddigwydd? Fydd unrhyw rybudd i ddangos i ni dy fod di’n dod, a bod diwedd y byd wedi cyrraedd?” Atebodd Iesu: “Gwyliwch fod neb yn eich twyllo chi. Bydd llawer yn dod yn hawlio fy awdurdod i, ac yn dweud, ‘Fi ydy’r Meseia,’ a byddan nhw’n llwyddo i dwyllo llawer o bobl. Bydd rhyfeloedd a sôn am ryfeloedd yn agos ac ymhell. Ond peidiwch cynhyrfu – mae pethau felly’n siŵr o ddigwydd, ond fydd y diwedd yn dal heb ddod. Bydd gwledydd a llywodraethau yn rhyfela yn erbyn ei gilydd. Bydd newyn mewn gwahanol leoedd, a daeargrynfeydd. Dim ond y dechrau ydy hyn i gyd! “Cewch eich arestio a’ch cam-drin a’ch lladd. Bydd pobl ym mhob gwlad yn eich casáu chi am eich bod yn ddilynwyr i mi. Bydd llawer yn troi cefn arna i bryd hynny, ac yn bradychu a chasáu ei gilydd. Bydd proffwydi ffug yn codi ac yn twyllo llawer iawn o bobl. Bydd mwy a mwy o ddrygioni a bydd cariad y rhan fwyaf yn oeri, ond bydd yr un sy’n sefyll yn gadarn i’r diwedd un yn cael ei achub. A bydd y newyddion da am deyrnasiad Duw yn cael ei gyhoeddi drwy’r byd i gyd. Bydd pob gwlad yn ei glywed, a dim ond wedyn fydd y diwedd yn dod. “Pan fydd beth soniodd y proffwyd Daniel amdano yn digwydd, hynny ydy pan fydd ‘Yr eilun ffiaidd sy’n dinistrio’ yn sefyll yn y cysegr sanctaidd (rhaid i’r un sy’n darllen ddeall hyn!), dylai pawb sydd yn Jwdea ddianc i’r mynyddoedd. Fydd dim cyfle i neb sydd y tu allan i’w dŷ fynd i mewn i nôl unrhyw beth. A ddylai neb sydd allan yn y maes fynd adre i nôl ei gôt hyd yn oed. Mor ofnadwy fydd hi ar wragedd beichiog a mamau sy’n magu plant bach bryd hynny! Gweddïwch bydd dim rhaid i chi ffoi yn ystod y gaeaf neu ar ddydd Saboth. Achos bryd hynny bydd argyfwng gwaeth nag unrhyw beth welwyd erioed o’r blaen – a fydd dim byd tebyg yn y dyfodol chwaith! Oni bai iddo gael ei wneud yn gyfnod byr, fyddai neb yn dianc! Ond bydd yn cael ei wneud yn gyfnod byr er mwyn y bobl mae Duw wedi’u dewis. Felly, os bydd rhywun yn dweud, ‘Edrych! Hwn ydy’r Meseia!’ neu ‘Dacw fe!’ peidiwch credu’r peth. Bydd llawer i ‘Feseia’ ffug a phroffwydi ffug yn dod ac yn gwneud gwyrthiau syfrdanol. Bydden nhw’n twyllo’r bobl hynny mae Duw wedi’u dewis petai’r fath beth yn bosib! Cofiwch mod i wedi dweud hyn ymlaen llaw. “Felly os bydd rhywun yn dweud wrthoch chi, ‘Mae’r Meseia acw, allan yn yr anialwch,’ peidiwch mynd yno i edrych; neu ‘mae e’n cuddio yma,’ peidiwch credu’r peth. Fydd dim amheuaeth o gwbl pan ddaw Mab y Dyn yn ôl – bydd mor amlwg â mellten yn goleuo’r awyr o’r dwyrain i’r gorllewin. Bydd mor amlwg â’r ffaith fod yna gorff marw ble bynnag mae fwlturiaid wedi casglu.
Mathew 24:1-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Aeth Iesu allan o'r deml, a phan oedd ar ei ffordd oddi yno daeth ei ddisgyblion ato i dynnu ei sylw at adeiladau'r deml. Dywedodd yntau wrthynt, “Oni welwch yr holl bethau hyn? Yn wir, rwy'n dweud wrthych, ni adewir yma faen ar faen; ni bydd yr un heb ei fwrw i lawr.” Fel yr oedd yn eistedd ar Fynydd yr Olewydd daeth y disgyblion ato o'r neilltu a gofyn, “Dywed wrthym pa bryd y bydd hyn, a beth fydd yr arwydd o'th ddyfodiad ac o ddiwedd amser?” Atebodd Iesu hwy, “Gwyliwch na fydd i neb eich twyllo. Oherwydd fe ddaw llawer yn fy enw i gan ddweud, ‘Myfi yw'r Meseia’, ac fe dwyllant lawer. Byddwch yn clywed am ryfeloedd a sôn am ryfeloedd; gofalwch beidio â chyffroi, oherwydd rhaid i hyn ddigwydd, ond nid yw'r diwedd eto. Oblegid cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas, a bydd adegau o newyn a daeargrynfâu mewn mannau. Ond dechrau'r gwewyr fydd hyn oll. Yna fe'ch traddodir i gael eich cosbi a'ch lladd, a chas fyddwch gan bob cenedl o achos fy enw i. A'r pryd hwnnw bydd llawer yn cwympo ymaith; byddant yn bradychu ei gilydd ac yn casáu ei gilydd. Fe gyfyd llawer o broffwydi gau a thwyllant lawer. Ac am fod drygioni yn amlhau bydd cariad llawer iawn yn oeri. Ond y sawl sy'n dyfalbarhau i'r diwedd a gaiff ei achub. Ac fe gyhoeddir yr Efengyl hon am y deyrnas drwy'r byd i gyd fel tystiolaeth i'r holl genhedloedd, ac yna y daw'r diwedd. “Felly, pan welwch ‘y ffieiddbeth diffeithiol’, y soniodd y proffwyd Daniel amdano, yn sefyll yn y lle sanctaidd” (dealled y darllenydd) “yna ffoed y rhai sydd yn Jwdea i'r mynyddoedd. Y sawl sydd ar ben y tŷ, peidied â mynd i lawr i gipio'i bethau o'i dŷ; a'r sawl sydd yn y cae, peidied â throi yn ei ôl i gymryd ei fantell. Gwae'r gwragedd beichiog a'r rhai sy'n rhoi'r fron yn y dyddiau hynny! A gweddïwch na fyddwch yn gorfod ffoi yn y gaeaf nac ar y Saboth, oblegid y pryd hwnnw bydd gorthrymder mawr na fu ei debyg o ddechrau'r byd hyd yn awr, ac na fydd byth chwaith. Ac oni bai fod y dyddiau hynny wedi eu byrhau, ni fuasai neb byw wedi ei achub; ond er mwyn yr etholedigion fe fyrheir y dyddiau hynny. Yna, os dywed rhywun wrthych, ‘Edrych, dyma'r Meseia’, neu ‘Dacw ef’, peidiwch â'i gredu. Oherwydd fe gyfyd gau feseiau a gau broffwydi, a rhoddant arwyddion mawr a rhyfeddodau nes arwain ar gyfeiliorn hyd yn oed yr etholedigion, petai hynny'n bosibl. Yn awr yr wyf wedi dweud wrthych ymlaen llaw. Felly, os dywedant wrthych, ‘Dyma ef yn yr anialwch’, peidiwch â mynd allan; neu os dywedant, ‘Dyma ef mewn ystafelloedd o'r neilltu’, peidiwch â'u credu. Oherwydd fel y mae'r fellten yn dod o'r dwyrain ac yn goleuo hyd at y gorllewin, felly y bydd dyfodiad Mab y Dyn. Lle bynnag y bydd y gelain, yno yr heidia'r fwlturiaid.
Mathew 24:1-28 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r Iesu a aeth allan, ac a ymadawodd o’r deml: a’i ddisgyblion a ddaethant ato, i ddangos iddo adeiladau’r deml. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Oni welwch chwi hyn oll? Yn wir meddaf i chwi, Ni adewir yma garreg ar garreg, a’r ni ddatodir. Ac efe yn eistedd ar fynydd yr Olewydd, y disgyblion a ddaethant ato o’r neilltu, gan ddywedyd, Mynega i ni, pa bryd y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd o’th ddyfodiad, ac o ddiwedd y byd? A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Edrychwch rhag i neb eich twyllo chwi. Canys daw llawer yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Crist; ac a dwyllant lawer. A chwi a gewch glywed am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd: gwelwch na chyffroer chwi: canys rhaid yw bod hyn oll; eithr nid yw’r diwedd eto. Canys cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: ac fe fydd newyn, a nodau, a daeargrynfâu mewn mannau. A dechreuad gofidiau yw hyn oll. Yna y’ch traddodant chwi i’ch gorthrymu, ac a’ch lladdant: a chwi a gaseir gan yr holl genhedloedd er mwyn fy enw i. Ac yna y rhwystrir llawer, ac y bradychant ei gilydd, ac y casânt ei gilydd. A gau broffwydi lawer a godant, ac a dwyllant lawer. Ac oherwydd yr amlha anwiredd, fe a oera cariad llawer. Eithr y neb a barhao hyd y diwedd, hwnnw a fydd cadwedig. A’r efengyl hon am y deyrnas a bregethir trwy’r holl fyd, er tystiolaeth i’r holl genhedloedd: ac yna y daw’r diwedd. Am hynny pan weloch y ffieidd-dra anghyfanheddol, a ddywedwyd trwy Daniel y proffwyd, yn sefyll yn y lle sanctaidd, (y neb a ddarlleno, ystyried;) Yna y rhai a fyddant yn Jwdea, ffoant i’r mynyddoedd. Y neb a fyddo ar ben y tŷ, na ddisgynned i gymryd dim allan o’i dŷ: A’r hwn a fyddo yn y maes, na ddychweled yn ei ôl i gymryd ei ddillad. A gwae’r rhai beichiogion, a’r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny. Eithr gweddïwch na byddo eich fföedigaeth yn y gaeaf, nac ar y dydd Saboth: Canys y pryd hwnnw y bydd gorthrymder mawr, y fath ni bu o ddechrau’r byd hyd yr awr hon, ac ni bydd chwaith. Ac oni bai fyrhau’r dyddiau hynny, ni fuasai gadwedig un cnawd oll: eithr er mwyn yr etholedigion fe fyrheir y dyddiau hynny. Yna os dywed neb wrthych, Wele, llyma Grist, neu llyma; na chredwch. Canys cyfyd gau Gristiau, a gau broffwydi, ac a roddant arwyddion mawrion a rhyfeddodau, hyd oni thwyllant, pe byddai bosibl, ie, yr etholedigion. Wele, rhagddywedais i chwi. Am hynny, os dywedant wrthych, Wele, y mae efe yn y diffeithwch; nac ewch allan: wele, yn yr ystafelloedd; na chredwch. Oblegid fel y daw’r fellten o’r dwyrain, ac y tywynna hyd y gorllewin; felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn. Canys pa le bynnag y byddo’r gelain, yno yr ymgasgl yr eryrod.