Mathew 23:8-12
Mathew 23:8-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Peidiwch chi â gadael i neb eich galw’n ‘Rabbi’. Dim ond un athro sydd gynnoch chi, a dych chi i gyd yn gydradd, fel brodyr a chwiorydd i’ch gilydd. A pheidiwch rhoi’r teitl anrhydedd ‘Y tad’ i neb. Duw yn y nefoedd ydy’ch Tad chi. A pheidiwch gadael i neb eich galw’n ‘meistr’ chwaith. Un meistr sydd gynnoch chi, a’r Meseia ydy hwnnw. Rhaid i’r arweinydd fod yn was. Bydd pwy bynnag sy’n gwthio ei hun i’r top yn cael ei dynnu i lawr, a phwy bynnag sy’n gwasanaethu eraill yn cael dyrchafiad.
Mathew 23:8-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond peidiwch chwi â chymryd eich galw yn ‘Rabbi’, oherwydd un athro sydd gennych, a chymrodyr ydych chwi i gyd. A pheidiwch â galw neb yn dad ichwi ar y ddaear, oherwydd un tad sydd gennych chwi, sef eich Tad nefol. A pheidiwch â chymryd eich galw'n arweinwyr chwaith, oherwydd un arweinydd sydd gennych, sef y Meseia. Rhaid i'r un mwyaf ohonoch fod yn was i chwi. Darostyngir pwy bynnag fydd yn ei ddyrchafu ei hun, a dyrchefir pwy bynnag fydd yn ei ddarostwng ei hun.
Mathew 23:8-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr na’ch galwer chwi Rabbi: canys un yw eich Athro chwi, sef Crist; a chwithau oll brodyr ydych. Ac na elwch neb yn dad i chwi ar y ddaear: canys un Tad sydd i chwi, yr hwn sydd yn y nefoedd. Ac na’ch galwer yn athrawon: canys un yw eich Athro chwi, sef Crist. A’r mwyaf ohonoch a fydd yn weinidog i chwi. A phwy bynnag a’i dyrchafo ei hun, a ostyngir; a phwy bynnag a’i gostyngo ei hun, a ddyrchefir.