Mathew 23:1-3
Mathew 23:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna dyma Iesu’n annerch y dyrfa a’i ddisgyblion: “Yr arbenigwyr yn y Gyfraith a’r Phariseaid sy’n dehongli Cyfraith Moses, ac wrth gwrs ‘Dylech chi wrando arnyn nhw a gwneud popeth maen nhw’n ei ddweud.’ Ond peidiwch dilyn eu hesiampl nhw – dŷn nhw ddim yn byw beth maen nhw’n ei bregethu.
Mathew 23:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna llefarodd Iesu wrth y tyrfaoedd a'i ddisgyblion. Dywedodd: “Y mae'r ysgrifenyddion a'r Phariseaid yn eistedd yng nghadair Moses. Felly gwnewch a chadwch bopeth a ddywedant wrthych, ond peidiwch â dilyn eu hymddygiad, oherwydd siarad y maent, heb weithredu.
Mathew 23:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y llefarodd yr Iesu wrth y torfeydd a’i ddisgyblion, Gan ddywedyd, Yng nghadair Moses yr eistedd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid. Yr hyn oll gan hynny a ddywedant wrthych am eu cadw, cedwch a gwnewch; eithr yn ôl eu gweithredoedd na wnewch: canys dywedant, ac nis gwnânt.