Mathew 23:1-10
Mathew 23:1-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna dyma Iesu’n annerch y dyrfa a’i ddisgyblion: “Yr arbenigwyr yn y Gyfraith a’r Phariseaid sy’n dehongli Cyfraith Moses, ac wrth gwrs ‘Dylech chi wrando arnyn nhw a gwneud popeth maen nhw’n ei ddweud.’ Ond peidiwch dilyn eu hesiampl nhw – dŷn nhw ddim yn byw beth maen nhw’n ei bregethu. Maen nhw’n gosod beichiau trwm eu rheolau crefyddol ar ysgwyddau pobl, ond wnân nhw ddim codi bys bach i helpu pobl i gario’r baich. “Maen nhw’n gwneud popeth er mwyn dangos eu hunain. Maen nhw’n gwneud yn siŵr fod y blychau gweddi ar eu breichiau a’u talcennau yn amlwg, a’r taselau hir ar eu clogyn yn dangos mor dduwiol ydyn nhw. Maen nhw wrth eu bodd yn cael y seddi gorau mewn gwleddoedd a’r seddi pwysica yn y synagogau, a chael pobl yn symud o’u ffordd a’u cyfarch yn barchus yn sgwâr y farchnad, a’u galw yn ‘Rabbi’. “Peidiwch chi â gadael i neb eich galw’n ‘Rabbi’. Dim ond un athro sydd gynnoch chi, a dych chi i gyd yn gydradd, fel brodyr a chwiorydd i’ch gilydd. A pheidiwch rhoi’r teitl anrhydedd ‘Y tad’ i neb. Duw yn y nefoedd ydy’ch Tad chi. A pheidiwch gadael i neb eich galw’n ‘meistr’ chwaith. Un meistr sydd gynnoch chi, a’r Meseia ydy hwnnw.
Mathew 23:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna llefarodd Iesu wrth y tyrfaoedd a'i ddisgyblion. Dywedodd: “Y mae'r ysgrifenyddion a'r Phariseaid yn eistedd yng nghadair Moses. Felly gwnewch a chadwch bopeth a ddywedant wrthych, ond peidiwch â dilyn eu hymddygiad, oherwydd siarad y maent, heb weithredu. Y maent yn rhwymo beichiau trymion ac anodd eu dwyn, ac yn eu gosod ar ysgwyddau pobl, ond nid ydynt hwy eu hunain yn fodlon codi bys i'w symud. Cyflawnant eu holl weithredoedd er mwyn cael eu gweld gan eraill. Y maent yn gwneud eu phylacterau'n llydan ac ymylon eu mentyll yn llaes; y maent yn hoffi cael y seddau anrhydedd mewn gwleddoedd a'r prif gadeiriau yn y synagogau, a chael cyfarchiadau yn y marchnadoedd a'u galw gan bobl yn ‘Rabbi’. Ond peidiwch chwi â chymryd eich galw yn ‘Rabbi’, oherwydd un athro sydd gennych, a chymrodyr ydych chwi i gyd. A pheidiwch â galw neb yn dad ichwi ar y ddaear, oherwydd un tad sydd gennych chwi, sef eich Tad nefol. A pheidiwch â chymryd eich galw'n arweinwyr chwaith, oherwydd un arweinydd sydd gennych, sef y Meseia.
Mathew 23:1-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y llefarodd yr Iesu wrth y torfeydd a’i ddisgyblion, Gan ddywedyd, Yng nghadair Moses yr eistedd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid. Yr hyn oll gan hynny a ddywedant wrthych am eu cadw, cedwch a gwnewch; eithr yn ôl eu gweithredoedd na wnewch: canys dywedant, ac nis gwnânt. Oblegid y maent yn rhwymo beichiau trymion ac anodd eu dwyn, ac yn eu gosod ar ysgwyddau dynion; ond nid ewyllysiant eu syflyd hwy ag un o’u bysedd. Ond y maent yn gwneuthur eu holl weithredoedd er mwyn eu gweled gan ddynion: canys y maent yn gwneuthur yn llydain eu phylacterau, ac yn gwneuthur ymylwaith eu gwisgoedd yn helaeth; A charu y maent y lle uchaf mewn gwleddoedd, a’r prif gadeiriau yn y synagogau, A chyfarch yn y marchnadoedd, a’u galw gan ddynion, Rabbi, Rabbi. Eithr na’ch galwer chwi Rabbi: canys un yw eich Athro chwi, sef Crist; a chwithau oll brodyr ydych. Ac na elwch neb yn dad i chwi ar y ddaear: canys un Tad sydd i chwi, yr hwn sydd yn y nefoedd. Ac na’ch galwer yn athrawon: canys un yw eich Athro chwi, sef Crist.