Mathew 2:1-3
Mathew 2:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Cafodd Iesu ei eni yn Bethlehem yn Jwdea, yn y cyfnod pan oedd Herod yn frenin. Ar ôl hynny, daeth gwŷr doeth o wledydd y dwyrain i Jerwsalem i ofyn, “Ble mae’r un sydd newydd gael ei eni yn frenin yr Iddewon? Gwelon ni ei seren yn codi yn y dwyrain, a dŷn ni yma i dalu teyrnged iddo.” Pan glywodd y Brenin Herod hyn roedd wedi cynhyrfu’n lân. Roedd cynnwrf yn Jerwsalem hefyd.
Mathew 2:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wedi i Iesu gael ei eni ym Methlehem Jwdea yn nyddiau'r Brenin Herod, daeth seryddion o'r dwyrain i Jerwsalem a holi, “Ble mae'r hwn a anwyd yn frenin yr Iddewon? Oherwydd gwelsom ei seren ef ar ei chyfodiad, a daethom i'w addoli.” A phan glywodd y Brenin Herod hyn, cythruddwyd ef, a Jerwsalem i gyd gydag ef.
Mathew 2:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wedi geni’r Iesu ym Methlehem Jwdea, yn nyddiau Herod frenin, wele, doethion a ddaethant o’r dwyrain i Jerwsalem, Gan ddywedyd, Pa le y mae’r hwn a anwyd yn Frenin yr Iddewon? canys gwelsom ei seren ef yn y dwyrain, a daethom i’w addoli ef. Ond pan glybu Herod frenin, efe a gyffrowyd, a holl Jerwsalem gydag ef.