Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 2:1-11

Mathew 2:1-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Cafodd Iesu ei eni yn Bethlehem yn Jwdea, yn y cyfnod pan oedd Herod yn frenin. Ar ôl hynny, daeth gwŷr doeth o wledydd y dwyrain i Jerwsalem i ofyn, “Ble mae’r un sydd newydd gael ei eni yn frenin yr Iddewon? Gwelon ni ei seren yn codi yn y dwyrain, a dŷn ni yma i dalu teyrnged iddo.” Pan glywodd y Brenin Herod hyn roedd wedi cynhyrfu’n lân. Roedd cynnwrf yn Jerwsalem hefyd. Felly galwodd Herod y prif offeiriaid a’r arbenigwyr yn y Gyfraith Iddewig i’w gyfarfod. Gofynnodd iddyn nhw, “Ble mae’r Meseia i fod i gael ei eni?” “Yn Bethlehem Jwdea,” medden nhw. “Dyna ysgrifennodd y proffwyd: ‘Bethlehem, yn nhir Jwda – Nid rhyw bentref dibwys yn Jwda wyt ti; achos ohonot ti daw un i deyrnasu, un fydd yn fugail i arwain fy mhobl Israel.’” Ar ôl cael gwybod hyn, dyma Herod yn galw’r gwŷr doeth i gyfarfod preifat. Cafodd wybod ganddyn nhw pryd yn union oedd y seren wedi ymddangos. Yna dwedodd, “Ewch i Bethlehem i chwilio am y plentyn. A gadewch i mi wybod pan ddewch o hyd iddo, er mwyn i mi gael mynd i dalu teyrnged iddo hefyd.” Ar ôl gwrando beth oedd gan y brenin i’w ddweud, i ffwrdd â nhw. Dyma’r seren yn mynd o’u blaen, nes iddi aros uwchben yr union fan lle roedd y plentyn. Roedden nhw wrth eu bodd! Pan aethon nhw i mewn i’r tŷ, dyna lle roedd y plentyn gyda’i fam, Mair, a dyma nhw’n disgyn ar eu gliniau o’i flaen a’i addoli. Yna dyma nhw’n agor eu paciau a rhoi anrhegion gwerthfawr iddo – aur a thus a myrr