Mathew 19:16-26
Mathew 19:16-26 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Daeth dyn at Iesu a gofyn iddo, “Athro, pa weithred dda sy’n rhaid i mi ei gwneud i gael bywyd tragwyddol?” “Pam wyt ti’n gofyn cwestiynau i mi am beth sy’n dda?” atebodd Iesu. “Does dim ond Un sy’n dda, a Duw ydy hwnnw. Os wyt ti eisiau mynd i’r bywyd, ufuddha i’r gorchmynion.” “Pa rai?” meddai. Atebodd Iesu, “ ‘Peidio llofruddio, peidio godinebu, peidio dwyn, peidio rhoi tystiolaeth ffals, gofalu am dy dad a dy fam,’ a ‘caru dy gymydog fel rwyt ti’n dy garu dy hun’ .” “Dw i wedi cadw’r rheolau yma i gyd,” meddai’r dyn ifanc, “ond mae rhywbeth ar goll.” Atebodd Iesu, “Os wyt ti wir am gyrraedd y nod, dos, a gwertha dy eiddo i gyd a rho’r arian i bobl dlawd. Wedyn cei drysor yn y nefoedd. Yna tyrd, dilyn fi.” Pan glywodd y dyn ifanc hyn, cerddodd i ffwrdd yn siomedig, am ei fod yn ddyn cyfoethog iawn. Dyma Iesu’n dweud wrth ei ddisgyblion, “Credwch chi fi, mae’n anodd i rywun cyfoethog adael i’r Un nefol deyrnasu yn ei fywyd. Gadewch i mi ddweud eto – mae’n haws i gamel wthio drwy grau nodwydd nag i bobl gyfoethog adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau.” Roedd y disgyblion yn rhyfeddu wrth ei glywed yn dweud hyn. “Oes gobaith i unrhyw un gael ei achub felly?” medden nhw. Ond dyma Iesu’n edrych arnyn nhw, a dweud, “Mae’r peth yn amhosib i bobl ei wneud, ond mae Duw yn gallu! Mae Duw’n gallu gwneud popeth!”
Mathew 19:16-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dyma ddyn yn dod ato ac yn gofyn, “Athro, pa beth da a wnaf i gael bywyd tragwyddol?” A dywedodd Iesu wrtho, “Pam yr wyt yn fy holi am yr hyn sy'n dda? Un yn unig sy'n dda. Ond os mynni fynd i mewn i'r bywyd, cadw'r gorchmynion.” Meddai yntau wrtho, “Pa rai?” Atebodd Iesu, “ ‘Na ladd, na odineba, na ladrata, na chamdystiolaetha, anrhydedda dy dad a'th fam’, a ‘Câr dy gymydog fel ti dy hun.’ ” Dywedodd y dyn ifanc wrtho, “Yr wyf wedi cadw'r rhain i gyd. Beth arall sydd eisiau?” Meddai Iesu wrtho, “Os mynni fod yn berffaith, dos, gwerth dy eiddo a dyro i'r tlodion, a chei drysor yn y nefoedd; a thyrd, canlyn fi.” Ond pan glywodd y dyn ifanc y gair hwn, aeth ymaith yn drist, oherwydd yr oedd yn berchen meddiannau lawer. Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych mai anodd fydd hi i rywun cyfoethog fynd i mewn i deyrnas nefoedd. Rwy'n dweud wrthych eto, y mae'n haws i gamel fynd trwy grau nodwydd nag i rywun cyfoethog fynd i mewn i deyrnas Dduw.” Pan glywodd y disgyblion hyn, synasant yn fawr ac meddent, “Pwy felly all gael ei achub?” Edrychodd Iesu arnynt a dywedodd wrthynt, “Gyda dynion y mae hyn yn amhosibl, ond gyda Duw y mae pob peth yn bosibl.”
Mathew 19:16-26 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wele, un a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Athro da, pa beth da a wnaf, fel y caffwyf fywyd tragwyddol? Yntau a ddywedodd wrtho, Paham y gelwi fi yn dda? nid da neb ond un, sef Duw: ond os ewyllysi fyned i mewn i’r bywyd, cadw’r gorchmynion. Efe a ddywedodd wrtho yntau, Pa rai? A’r Iesu a ddywedodd, Na ladd, Na odineba, Na ladrata, Na ddwg gamdystiolaeth, Anrhydedda dy dad a’th fam, a Châr dy gymydog fel ti dy hun. Y gŵr ieuanc a ddywedodd wrtho, Mi a gedwais y rhai hyn oll o’m hieuenctid: beth sydd yn eisiau i mi eto? Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Os ewyllysi fod yn berffaith, dos, gwerth yr hyn sydd gennyt, a dyro i’r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, canlyn fi. A phan glybu’r gŵr ieuanc yr ymadrodd, efe a aeth i ffordd yn drist: canys yr oedd yn berchen da lawer. Yna y dywedodd yr Iesu wrth ei ddisgyblion, Yn wir y dywedaf i chwi, mai yn anodd yr â goludog i mewn i deyrnas nefoedd. A thrachefn meddaf i chwi, Haws yw i gamel fyned trwy grau’r nodwydd ddur, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw. A phan glybu ei ddisgyblion ef hyn, synnu a wnaethant yn ddirfawr, gan ddywedyd, Pwy gan hynny a all fod yn gadwedig? A’r Iesu a edrychodd arnynt, ac a ddywedodd wrthynt, Gyda dynion amhosibl yw hyn; ond gyda Duw pob peth sydd bosibl.