Mathew 17:4-9
Mathew 17:4-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma Pedr yn dweud wrth Iesu, “Arglwydd, mae’n dda cael bod yma. Os wyt ti eisiau, gwna i godi tair lloches yma – un i ti, un i Moses, ac un i Elias.” Roedd yn dal i siarad pan ddaeth cwmwl disglair i lawr o’u cwmpas, a dyma lais o’r cwmwl yn dweud, “Fy Mab annwyl i ydy hwn; mae wedi fy mhlesio i’n llwyr. Gwrandwch arno!” Pan glywodd y disgyblion y llais roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau, a dyma nhw’n syrthio ar eu hwynebau ar lawr. Ond dyma Iesu’n mynd atyn nhw a’u cyffwrdd, a dweud wrthyn nhw, “Codwch, peidiwch bod ag ofn.” Pan edrychon nhw i fyny doedd neb i’w weld yno ond Iesu. Wrth ddod i lawr o’r mynydd, dyma Iesu’n dweud yn glir wrthyn nhw, “Peidiwch sôn wrth neb am beth dych chi wedi’i weld nes bydda i, Mab y Dyn, wedi dod yn ôl yn fyw ar ôl marw.”
Mathew 17:4-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A dywedodd Pedr wrth Iesu, “Arglwydd, y mae'n dda ein bod ni yma; os mynni, gwnaf yma dair pabell, un i ti ac un i Moses ac un i Elias.” Tra oedd ef yn dal i siarad, dyma gwmwl golau yn cysgodi drostynt, a llais o'r cwmwl yn dweud, “Hwn yw fy Mab, yr Anwylyd; ynddo ef yr wyf yn ymhyfrydu; gwrandewch arno.” A phan glywodd y disgyblion hyn syrthiasant ar eu hwynebau a chydiodd ofn mawr ynddynt. Daeth Iesu atynt a chyffwrdd â hwy gan ddweud, “Codwch, a pheidiwch ag ofni.” Ac wedi edrych i fyny ni welsant neb ond Iesu yn unig. Wrth iddynt ddod i lawr o'r mynydd gorchmynnodd Iesu iddynt, “Peidiwch â dweud wrth neb am y weledigaeth nes y bydd Mab y Dyn wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw.”
Mathew 17:4-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrth yr Iesu, O Arglwydd, da yw i ni fod yma: os ewyllysi, gwnawn yma dair pabell; un i ti, ac un i Moses, ac un i Eleias. Ac efe eto yn llefaru, wele, cwmwl golau a’u cysgododd hwynt: ac wele, lef o’r cwmwl, yn dywedyd, Hwn yw fy annwyl Fab, yn yr hwn y’m bodlonwyd: gwrandewch arno ef. A phan glybu’r disgyblion hynny: hwy a syrthiasant ar eu hwyneb, ac a ofnasant yn ddirfawr. A daeth yr Iesu, ac a gyffyrddodd â hwynt, ac a ddywedodd, Cyfodwch, ac nac ofnwch. Ac wedi iddynt ddyrchafu eu llygaid, ni welsant neb ond yr Iesu yn unig. Ac fel yr oeddynt yn disgyn o’r mynydd, gorchmynnodd yr Iesu iddynt, gan ddywedyd, Na ddywedwch y weledigaeth i neb, hyd oni atgyfodo Mab y dyn o feirw.