Mathew 17:22-27 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Mathew 17:22-27 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Pan ddaethon nhw at ei gilydd yn Galilea, dyma Iesu’n dweud wrthyn nhw, “Dw i, Mab y Dyn, yn mynd i gael fy mradychu i afael pobl fydd yn fy lladd, ond ddeuddydd wedyn bydda i’n dod yn ôl yn fyw.” Roedd y disgyblion yn ofnadwy o drist. Pan gyrhaeddodd Iesu a’i ddisgyblion Capernaum, daeth y rhai oedd yn casglu’r dreth i gynnal y deml at Pedr (hynny ydy y dreth o ddwy ddrachma). Dyma nhw’n gofyn iddo, “Ydy dy athro di’n talu treth y deml?” “Ydy, mae e” atebodd Pedr. Pan aeth Pedr adre, cyn iddo gael cyfle i ddweud gair, dyma Iesu’n gofyn iddo, “Simon, beth wyt ti’n feddwl? Gan bwy mae brenhinoedd yn casglu tollau a threthi – gan eu plant eu hunain neu gan bobl eraill?” “Gan bobl eraill,” meddai Pedr. “Felly does dim rhaid i’r plant dalu,” meddai Iesu wrtho. “Ond rhag i ni beri tramgwydd iddyn nhw, dos at y llyn a thaflu lein i’r dŵr. Cymer y pysgodyn cyntaf wnei di ei ddal, ac yn ei geg cei ddarn arian fydd yn ddigon i’w dalu. Defnyddia hwnnw i dalu’r dreth drosto i a thithau.”
Mathew 17:22-27 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan oeddent gyda'i gilydd yng Ngalilea dywedodd Iesu wrthynt, “Y mae Mab y Dyn i'w draddodi i ddwylo pobl, ac fe'i lladdant ef, a'r trydydd dydd fe'i cyfodir.” Ac aethant yn drist iawn. Wedi iddynt ddod i Gapernaum, daeth y rhai oedd yn casglu treth y deml at Pedr a gofyn, “Onid yw eich athro yn talu treth y deml?” “Ydyw,” meddai Pedr. Pan aeth i'r tŷ, achubodd Iesu'r blaen arno trwy ofyn, “Simon, beth yw dy farn di? Gan bwy y mae brenhinoedd y byd yn derbyn tollau a threthi? Ai gan eu dinasyddion eu hunain ynteu gan estroniaid?” “Gan estroniaid,” meddai Pedr. Dywedodd Iesu wrtho, “Felly y mae'r dinasyddion yn rhydd o'r dreth. Ond rhag i ni beri tramgwydd iddynt, dos at y môr a bwrw fachyn iddo, a chymer y pysgodyn cyntaf a ddaw i fyny. Agor ei geg ac fe gei ddarn arian. Cymer hwnnw a rho ef iddynt drosof fi a thithau.”
Mathew 17:22-27 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fel yr oeddynt hwy yn aros yng Ngalilea, dywedodd yr Iesu wrthynt, Mab y dyn a draddodir i ddwylo dynion: A hwy a’i lladdant; a’r trydydd dydd y cyfyd efe. A hwy a aethant yn drist iawn. Ac wedi dyfod ohonynt i Gapernaum, y rhai oedd yn derbyn arian y deyrnged a ddaethant at Pedr, ac a ddywedasant, Onid yw eich athro chwi yn talu teyrnged? Yntau a ddywedodd, Ydyw. Ac wedi ei ddyfod ef i’r tŷ, yr Iesu a achubodd ei flaen ef, gan ddywedyd, Beth yr wyt ti yn ei dybied, Simon? gan bwy y cymer brenhinoedd y ddaear deyrnged neu dreth? gan eu plant eu hun, ynteu gan estroniaid? Pedr a ddywedodd wrtho, Gan estroniaid. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Gan hynny y mae’r plant yn rhyddion. Er hynny, rhag i ni eu rhwystro hwy, dos i’r môr, a bwrw fach, a chymer y pysgodyn a ddêl i fyny yn gyntaf; ac wedi iti agoryd ei safn, ti a gei ddarn o arian: cymer hwnnw, a dyro iddynt drosof fi a thithau.