Mathew 17:1-3
Mathew 17:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Chwe diwrnod wedyn aeth Iesu i ben mynydd uchel, a mynd â Pedr, Iago ac Ioan (brawd Iago) gydag e. Dyma olwg Iesu’n cael ei drawsnewid o flaen eu llygaid – roedd ei wyneb yn disgleirio fel yr haul, a throdd ei ddillad yn wyn llachar fel golau. Wedyn dyma Moses ac Elias yn ymddangos, yn sgwrsio gyda Iesu.
Mathew 17:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ymhen chwe diwrnod dyma Iesu'n cymryd Pedr ac Iago ac Ioan ei frawd, ac yn mynd â hwy i fynydd uchel o'r neilltu. A gweddnewidiwyd ef yn eu gŵydd hwy, a disgleiriodd ei wyneb fel yr haul, ac aeth ei ddillad yn wyn fel y goleuni. A dyma Moses ac Elias yn ymddangos iddynt, yn ymddiddan ag ef.
Mathew 17:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac ar ôl chwe diwrnod y cymerodd yr Iesu Pedr, ac Iago, ac Ioan ei frawd, ac a’u dug hwy i fynydd uchel o’r neilltu; A gweddnewidiwyd ef ger eu bron hwy: a’i wyneb a ddisgleiriodd fel yr haul, a’i ddillad oedd cyn wynned â’r goleuni. Ac wele, Moses ac Eleias a ymddangosodd iddynt, yn ymddiddan ag ef.