Mathew 16:21-28
Mathew 16:21-28 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
O hynny ymlaen dechreuodd Iesu esbonio i’w ddisgyblion fod rhaid iddo fynd i Jerwsalem. Byddai’r arweinwyr Iddewig, y prif offeiriaid a’r arbenigwyr yn y Gyfraith yn gwneud iddo ddiodde’n ofnadwy. Byddai’n cael ei ladd, ond yna’n dod yn ôl yn fyw ddeuddydd wedyn. Dyma Pedr yn mynd ag e i’r naill ochr, a dweud y drefn wrtho am ddweud y fath bethau. “Duw a’n gwaredo!” meddai, “Wnaiff hynny byth ddigwydd i ti, Arglwydd!” Ond trodd Iesu, a dweud wrth Pedr, “Dos o’m golwg i Satan! Rwyt ti’n rhwystr i mi; rwyt ti’n meddwl fel mae pobl yn meddwl yn lle gweld pethau fel mae Duw’n eu gweld nhw.” Yna dyma Iesu’n dweud wrth ei ddisgyblion, “Os ydy rhywun am fy nilyn i, rhaid iddyn nhw stopio rhoi nhw eu hunain gyntaf. Rhaid iddyn nhw aberthu eu hunain dros erailla cherdded yr un llwybr â mi. Bydd y rhai sy’n ceisio achub eu hunain yn colli’r bywyd go iawn, ond bydd y rhai hynny sy’n barod i ollwng gafael yn eu bywydau er fy mwyn i, yn dod o hyd i fywyd go iawn. Beth ydy’r pwynt o gael popeth sydd gan y byd i’w gynnig, a cholli’r enaid? Oes unrhyw beth sy’n fwy gwerthfawr na’r enaid? Bydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl yn holl ysblander y Tad, a’r angylion gyda mi. Bydda i’n rhoi gwobr i bawb ar sail beth maen nhw wedi’i wneud. Credwch chi fi, wnaiff rhai ohonoch chi sy’n sefyll yma ddim marw cyn cael gweld Mab y Dyn yn dod i deyrnasu.”
Mathew 16:21-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
O'r amser hwnnw y dechreuodd Iesu ddangos i'w ddisgyblion fod yn rhaid iddo fynd i Jerwsalem, a dioddef llawer gan yr henuriaid a'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion, a'i ladd, a'r trydydd dydd ei gyfodi. A chymerodd Pedr ef a dechrau ei geryddu gan ddweud, “Na ato Duw, Arglwydd. Ni chaiff hyn ddigwydd i ti.” Troes yntau, a dywedodd wrth Pedr, “Dos ymaith o'm golwg, Satan; maen tramgwydd ydwyt imi, oherwydd nid ar bethau Duw y mae dy fryd ond ar bethau dynol.” Yna dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, “Os myn neb ddod ar fy ôl i, rhaid iddo ymwadu ag ef ei hun a chodi ei groes a'm canlyn i. Oherwydd pwy bynnag a fyn gadw ei fywyd, fe'i cyll, ond pwy bynnag a gyll ei fywyd er fy mwyn i, fe'i caiff. Pa elw a gaiff rhywun os ennill yr holl fyd a fforffedu ei fywyd? Neu beth a rydd rhywun yn gyfnewid am ei fywyd? Oherwydd y mae Mab y Dyn ar ddyfod yng ngogoniant ei Dad gyda'i angylion, ac yna fe dâl i bob un yn ôl ei ymddygiad. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, y mae rhai o'r sawl sy'n sefyll yma na phrofant flas marwolaeth nes iddynt weld Mab y Dyn yn dyfod yn ei deyrnas.”
Mathew 16:21-28 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
O hynny allan y dechreuodd yr Iesu ddangos i’w ddisgyblion fod yn rhaid iddo fyned i Jerwsalem, a dioddef llawer gan yr henuriaid, a’r archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a’i ladd, a chyfodi y trydydd dydd. A Phedr, wedi ei gymryd ef ato, a ddechreuodd ei geryddu ef, gan ddywedyd, Arglwydd, trugarha wrthyt dy hun; ni bydd hyn i ti. Ac efe a drodd, ac a ddywedodd wrth Pedr, Dos yn fy ôl i, Satan: rhwystr ydwyt ti i mi: am nad ydwyt yn synied y pethau sydd o Dduw, ond y pethau sydd o ddynion. Yna y dywedodd yr Iesu wrth ei ddisgyblion, Os myn neb ddyfod ar fy ôl i, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes, a chanlyned fi. Canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei fywyd, a’i cyll: a phwy bynnag a gollo ei fywyd o’m plegid i, a’i caiff. Canys pa lesâd i ddyn, os ennill efe yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun? neu pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei enaid? Canys Mab y dyn a ddaw yng ngogoniant ei Dad gyda’i angylion; ac yna y rhydd efe i bawb yn ôl ei weithred. Yn wir y dywedaf wrthych, Y mae rhai o’r sawl sydd yn sefyll yma, a’r ni phrofant angau, hyd oni welont Fab y dyn yn dyfod yn ei frenhiniaeth.