Mathew 16:2-4
Mathew 16:2-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Atebodd nhw, “Pan mae’r haul yn machlud dych chi’n dweud, ‘Bydd hi’n braf fory – mae’r awyr yn goch,’ ac yn y bore, ‘Bydd hi’n stormus heddiw – mae’r awyr yn goch a’r cymylau’n ddu.’ Dych chi’n gwybod sut mae’r tywydd yn argoeli, ond does gynnoch chi ddim syniad sut i ddeall yr arwyddion o beth sy’n digwydd nawr. Cenhedlaeth ddrwg ac anffyddlon sy’n gofyn am gael gweld gwyrth fyddai’n arwydd iddyn nhw o pwy ydw i! Yr unig arwydd gân nhw ydy arwydd y proffwyd Jona.” Yna gadawodd nhw a mynd i ffwrdd.
Mathew 16:2-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond atebodd ef hwy, “Gyda'r nos fe ddywedwch, ‘Bydd yn dywydd teg, oherwydd y mae'r wybren yn goch.’ Ac yn y bore, ‘Bydd yn stormus heddiw, oherwydd y mae'r wybren yn goch ac yn gymylog.’ Gwyddoch sut i ddehongli golwg y ffurfafen, ond ni allwch ddehongli arwyddion yr amserau. Cenhedlaeth ddrygionus ac annuwiol sy'n ceisio arwydd, eto ni roddir arwydd iddi ond arwydd Jona.” A gadawodd hwy a mynd ymaith.
Mathew 16:2-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Pan fyddo’r hwyr, y dywedwch, Tywydd teg; canys y mae’r wybr yn goch. A’r bore, Heddiw drycin; canys y mae’r wybr yn goch ac yn bruddaidd. O ragrithwyr, chwi a fedrwch ddeall wyneb yr wybren; ac oni fedrwch arwyddion yr amserau? Y mae cenhedlaeth ddrwg a godinebus yn ceisio arwydd; ac arwydd nis rhoddir iddi, ond arwydd y proffwyd Jonas. Ac efe a’u gadawodd hwynt, ac a aeth ymaith.