Mathew 16:15-20
Mathew 16:15-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Ond beth amdanoch chi?” meddai. “Pwy dych chi’n ddweud ydw i?” Atebodd Simon Pedr, “Ti ydy’r Meseia, Mab y Duw byw.” “Rwyt ti wedi dy fendithio’n fawr, Simon fab Jona,” meddai Iesu, “am mai dim person dynol ddangosodd hyn i ti, ond fy Nhad yn y nefoedd. A dw i’n dweud wrthyt ti mai ti ydy Pedr (sef ‘y garreg’). A dyma’r graig dw i’n mynd i adeiladu fy eglwys arni hi, a fydd grym marwolaeth ddim yn ei gorchfygu hi. Dw i’n mynd i roi allweddi teyrnas yr Un nefol i ti; bydd beth bynnag rwyt ti’n ei rwystro ar y ddaear wedi’i rwystro yn y nefoedd, a bydd beth bynnag rwyt ti’n ei ganiatáu ar y ddaear wedi’i ganiatáu yn y nefoedd.” Yna dyma Iesu’n rhybuddio’i ddisgyblion i beidio dweud wrth neb mai fe oedd y Meseia.
Mathew 16:15-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“A chwithau,” meddai wrthynt, “pwy meddwch chwi ydwyf fi?” Atebodd Simon Pedr, “Ti yw'r Meseia, Mab y Duw byw.” Dywedodd Iesu wrtho, “Gwyn dy fyd, Simon fab Jona, oherwydd nid cig a gwaed a ddatguddiodd hyn iti ond fy Nhad, sydd yn y nefoedd. Ac rwyf fi'n dweud wrthyt mai ti yw Pedr, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys, ac ni chaiff holl bwerau Hades y trechaf arni. Rhoddaf iti allweddau teyrnas nefoedd, a beth bynnag a waherddi ar y ddaear a waherddir yn y nefoedd, a beth bynnag a ganiatei ar y ddaear a ganiateir yn y nefoedd.” Yna gorchmynnodd i'w ddisgyblion beidio â dweud wrth neb mai ef oedd y Meseia.
Mathew 16:15-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Efe a ddywedodd wrthynt, Ond pwy meddwch chwi ydwyf fi? A Simon Pedr a atebodd ac a ddywedodd, Ti yw’r Crist, Mab y Duw byw. A’r Iesu gan ateb a ddywedodd wrtho, Gwyn dy fyd di, Simon mab Jona: canys nid cig a gwaed a ddatguddiodd hyn i ti, ond fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. Ac yr ydwyf finnau yn dywedyd i ti, mai ti yw Pedr, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys; a phyrth uffern nis gorchfygant hi. A rhoddaf i ti agoriadau teyrnas nefoedd: a pha beth bynnag a rwymech ar y ddaear, a fydd rhwymedig yn y nefoedd; a pha beth bynnag a ryddhaech ar y ddaear, a fydd wedi ei ryddhau yn y nefoedd. Yna y gorchmynnodd efe i’w ddisgyblion, na ddywedent i neb mai efe oedd Iesu Grist.