Mathew 15:32
Mathew 15:32 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma Iesu’n galw’i ddisgyblion ato a dweud, “Dw i’n teimlo dros y bobl yma i gyd; maen nhw wedi bod yma ers tri diwrnod heb gael dim i’w fwyta. Dw i ddim am iddyn nhw fynd i ffwrdd yn llwgu, rhag iddyn nhw lewygu ar y ffordd.”
Rhanna
Darllen Mathew 15Mathew 15:32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Galwodd Iesu ei ddisgyblion ato, ac meddai, “Yr wyf yn tosturio wrth y dyrfa, oherwydd y maent wedi bod gyda mi dridiau erbyn hyn, ac nid oes ganddynt ddim i'w fwyta. Ac ni fynnaf eu hanfon ymaith ar eu cythlwng, rhag iddynt lewygu ar y ffordd.”
Rhanna
Darllen Mathew 15Mathew 15:32 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A galwodd yr Iesu ei ddisgyblion ato, ac a ddywedodd, Yr ydwyf yn tosturio wrth y dyrfa; canys y maent yn aros gyda mi dridiau weithian, ac nid oes ganddynt ddim i’w fwyta: ac nid ydwyf yn ewyllysio eu gollwng hwynt ymaith ar eu cythlwng, rhag eu llewygu ar y ffordd.
Rhanna
Darllen Mathew 15