Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 15:22-28 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Mathew 15:22-28 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Daeth gwraig ato (gwraig o’r ardal o dras Canaaneaidd), a gweiddi, “Arglwydd, Fab Dafydd, helpa fi! Mae fy merch yn dioddef yn ofnadwy am ei bod yng ngafael cythraul.” Wnaeth Iesu ddim ymateb o gwbl. A dyma’i ddisgyblion yn dod ato a phwyso arno, “Anfon hi i ffwrdd, mae hi’n boen yn dal ati i weiddi ar ein holau ni!” Felly atebodd Iesu hi, “Dim ond at bobl Israel, sydd fel defaid ar goll, ces i fy anfon.” Ond dyma’r wraig yn dod a phenlinio o’i flaen. “Helpa fi, Arglwydd!” meddai. Atebodd Iesu, “Dydy hi ddim yn iawn i bobl daflu bwyd y plant i’r cŵn.” “Digon gwir, Arglwydd,” meddai’r wraig, “ond mae hyd yn oed y cŵn yn bwyta’r briwsion sy’n disgyn oddi ar fwrdd eu meistr.” Atebodd Iesu, “Wraig annwyl, mae gen ti lot o ffydd! Cei beth ofynnaist amdano.” A dyna’r union adeg y cafodd ei merch ei hiacháu.

Mathew 15:22-28 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

A dyma wraig oedd yn Gananëes o'r cyffiniau hynny yn dod ymlaen gan weiddi, “Syr, trugarha wrthyf, Fab Dafydd; y mae fy merch wedi ei meddiannu gan gythraul ac yn dioddef yn enbyd.” Ond nid atebodd ef un gair iddi. A daeth ei ddisgyblion ato a gofyn iddo, “Gyr hi i ffwrdd, oherwydd y mae'n gweiddi ar ein hôl.” Atebodd yntau, “Ni'm hanfonwyd at neb ond at ddefaid colledig tŷ Israel.” Ond daeth hithau ac ymgrymu iddo gan ddweud, “Syr, helpa fi.” Atebodd Iesu, “Nid yw'n deg cymryd bara'r plant a'i daflu i'r cŵn.” Dywedodd hithau, “Gwir, syr, ond y mae hyd yn oed y cŵn yn bwyta o'r briwsion sy'n syrthio oddi ar fwrdd eu meistri.” Yna atebodd Iesu hi, “Wraig, mawr yw dy ffydd; boed iti fel y mynni.” Ac fe iachawyd ei merch o'r munud hwnnw.

Mathew 15:22-28 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Ac wele, gwraig o Ganaan a ddaeth o’r parthau hynny, ac a lefodd, gan ddywedyd wrtho, Trugarha wrthyf, O Arglwydd, Fab Dafydd: y mae fy merch yn ddrwg ei hwyl gan gythraul. Eithr nid atebodd efe iddi un gair. A daeth ei ddisgyblion ato, ac a atolygasant iddo, gan ddywedyd, Gollwng hi ymaith; canys y mae hi yn llefain ar ein hôl. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Ni’m danfonwyd i ond at ddefaid colledig tŷ Israel. Ond hi a ddaeth, ac a’i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, cymorth fi. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Nid da cymryd bara’r plant, a’i fwrw i’r cŵn. Hithau a ddywedodd, Gwir yw, Arglwydd: canys y mae’r cŵn yn bwyta o’r briwsion sydd yn syrthio oddi ar fwrdd eu harglwyddi. Yna yr atebodd yr Iesu, ac a ddywedodd wrthi, Ha wraig, mawr yw dy ffydd: bydded i ti fel yr wyt yn ewyllysio. A’i merch a iachawyd o’r awr honno allan.