Mathew 13:37-43
Mathew 13:37-43 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Atebodd Iesu, “Fi, Mab y Dyn, ydy’r un sy’n hau yr had da. Y byd ydy’r cae, ac mae’r hadau da yn cynrychioli’r bobl sy’n perthyn i’r deyrnas. Y bobl sy’n perthyn i’r un drwg ydy’r chwyn, a’r gelyn sy’n eu hau nhw ydy’r diafol. Diwedd y byd ydy’r cynhaeaf, a’r angylion ydy’r rhai fydd yn casglu’r cynhaeaf. “Dyma fydd yn digwydd pan ddaw diwedd y byd: Fel y chwyn sy’n cael eu casglu i’w llosgi, bydd Mab y Dyn yn anfon yr angylion allan. Byddan nhw’n chwynnu o blith y rhai sy’n perthyn i’w deyrnas bawb sy’n gwneud i bobl bechu, a phawb sy’n gwneud drwg. Bydd yr angylion yn eu taflu nhw i’r ffwrnais, lle bydd pobl yn wylo’n chwerw ac mewn artaith. Wedyn, pan ddaw eu Tad nefol i deyrnasu, bydd y bobl wnaeth beth sy’n iawn yn disgleirio fel yr haul. Gwrandwch yn ofalus os dych chi’n awyddus i ddysgu.
Mathew 13:37-43 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd yntau, “Yr un sy'n hau'r had da yw Mab y Dyn. Y maes yw'r byd. Yr had da yw plant y deyrnas; yr efrau yw plant yr Un drwg, a'r gelyn a'u heuodd yw'r diafol; y cynhaeaf yw diwedd amser, a'r medelwyr yw'r angylion. Yn union fel y cesglir yr efrau a'u llosgi yn y tân, felly y bydd yn niwedd amser. Bydd Mab y Dyn yn anfon ei angylion, a byddant yn casglu allan o'i deyrnas ef bopeth sy'n peri tramgwydd, a'r rhai sy'n gwneud anghyfraith, a byddant yn eu taflu i'r ffwrnais danllyd; bydd yno wylo a rhincian dannedd. Yna bydd y rhai cyfiawn yn disgleirio fel yr haul yn nheyrnas eu Tad. Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed.
Mathew 13:37-43 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr hwn sydd yn hau’r had da, yw Mab y dyn; A’r maes yw’r byd; a’r had da, hwynt-hwy yw plant y deyrnas; a’r efrau yw plant y drwg; A’r gelyn yr hwn a’u heuodd hwynt, yw diafol; a’r cynhaeaf yw diwedd y byd; a’r medelwyr yw’r angylion. Megis gan hynny y cynullir yr efrau, ac a’u llwyr losgir yn tân; felly y bydd yn niwedd y byd hwn. Mab y dyn a ddenfyn ei angylion, a hwy a gynullant allan o’i deyrnas ef yr holl dramgwyddiadau, a’r rhai a wnânt anwiredd; Ac a’u bwriant hwy i’r ffwrn dân: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd. Yna y llewyrcha’r rhai cyfiawn fel yr haul, yn nheyrnas eu Tad. Yr hwn sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.