Mathew 13:10-16
Mathew 13:10-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Daeth y disgyblion ato a gofyn, “Pam wyt ti’n dweud y straeon yma wrthyn nhw?” Dyma oedd ei ateb: “Dych chi’n cael gwybod beth ydy’r gyfrinach am deyrnasiad yr Un nefol, ond dydyn nhw ddim. Bydd y rhai sydd wedi deall rhywfaint eisoes yn derbyn mwy, a byddan nhw ar ben eu digon! Ond am y rhai hynny sydd heb ddeall dim – bydd hyd yn oed yr hyn maen nhw yn ei ddeall yn cael ei gymryd oddi arnyn nhw. Dyna pam dw i’n defnyddio straeon i siarad â nhw. Er eu bod yn edrych, dŷn nhw ddim yn gweld; er eu bod yn gwrando, dŷn nhw ddim yn clywed nac yn deall. Ynddyn nhw mae’r hyn wnaeth Eseia ei broffwydo yn dod yn wir: ‘Byddwch chi’n gwrando’n astud, ond byth yn deall; Byddwch chi’n edrych yn ofalus, ond byth yn dirnad. Maen nhw’n rhy ystyfnig i ddysgu unrhyw beth – maen nhw’n fyddar, ac wedi cau eu llygaid. Fel arall, bydden nhw’n gweld â’u llygaid, yn clywed â’u clustiau, yn deall go iawn, ac yn troi, a byddwn i’n eu hiacháu nhw’. Ond dych chi’n cael y fath fraint o weld a chlywed y cwbl!
Mathew 13:10-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Daeth y disgyblion a dweud wrtho, “Pam yr wyt yn siarad wrthynt ar ddamhegion?” Atebodd yntau, “I chwi y mae gwybod cyfrinachau teyrnas nefoedd wedi ei roi, ond iddynt hwy nis rhoddwyd. Oherwydd i'r sawl y mae ganddo y rhoir, a bydd ganddo fwy na digon; ond oddi ar yr sawl nad oes ganddo y dygir hyd yn oed hynny sydd ganddo. Am hynny yr wyf yn siarad wrthynt ar ddamhegion; oherwydd er iddynt edrych nid ydynt yn gweld, ac er iddynt wrando nid ydynt yn clywed nac yn deall. A chyflawnir ynddynt hwy y broffwydoliaeth gan Eseia sy'n dweud: “ ‘Er clywed a chlywed, ni ddeallwch ddim; er edrych ac edrych, ni welwch ddim. Canys brasawyd calon y bobl yma, y mae eu clyw yn drwm, a'u llygaid wedi cau; rhag iddynt weld â'u llygaid, a chlywed â'u clustiau, a deall â'u calon, a throi'n ôl, i mi eu hiacháu.’ “Ond gwyn eu byd eich llygaid chwi am eu bod yn gweld, a'ch clustiau chwi am eu bod yn clywed.
Mathew 13:10-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A daeth y disgyblion, ac a ddywedasant wrtho, Paham yr wyt ti yn llefaru wrthynt trwy ddamhegion? Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Am roddi i chwi wybod dirgelion teyrnas nefoedd, ac ni roddwyd iddynt hwy. Oblegid pwy bynnag sydd ganddo, i hwnnw y rhoddir, ac efe a gaiff helaethrwydd: eithr pwy bynnag nid oes ganddo, oddi arno ef y dygir, ie, yr hyn sydd ganddo. Am hynny yr ydwyf yn llefaru wrthynt hwy ar ddamhegion: canys a hwy yn gweled, nid ydynt yn gweled; ac yn clywed, nid ydynt yn clywed, nac yn deall. Ac ynddynt hwy y cyflawnir proffwydoliaeth Eseias, yr hon sydd yn dywedyd, Gan glywed y clywch, ac ni ddeellwch; ac yn gweled y gwelwch, ac ni chanfyddwch; Canys brasawyd calon y bobl hyn, a hwy a glywsant â’u clustiau yn drwm, ac a gaeasant eu llygaid; rhag canfod â’u llygaid, a chlywed â’u clustiau, a deall â’r galon, a throi, ac i mi eu hiacháu hwynt. Eithr dedwydd yw eich llygaid chwi, am eu bod yn gweled; a’ch clustiau, am eu bod yn clywed