Mathew 12:25 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Mathew 12:25 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Iesu’n gwybod yn iawn beth oedd yn mynd drwy’u meddyliau, ac meddai wrthyn nhw, “Bydd teyrnas lle mae yna ryfel cartref yn syrthio, a bydd dinas neu deulu sy’n ymladd â’i gilydd o hyd yn syrthio hefyd.
Rhanna
Mathew 12 BNETMathew 12:25 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Deallodd Iesu eu meddyliau a dywedodd wrthynt, “Caiff pob teyrnas a ymrannodd yn ei herbyn ei hun ei difrodi, ac ni bydd yr un dref na thŷ a ymrannodd yn ei erbyn ei hun yn sefyll.
Rhanna
Mathew 12 BCNDMathew 12:25 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A’r Iesu yn gwybod eu meddyliau, a ddywedodd wrthynt, Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, a anghyfanheddir; a phob dinas neu dŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni saif.
Rhanna
Mathew 12 BWM