Mathew 10:40-42
Mathew 10:40-42 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Mae pwy bynnag sy’n rhoi croeso i chi yn rhoi croeso i mi, a phwy bynnag sy’n rhoi croeso i mi yn rhoi croeso i Dduw, yr un sydd wedi f’anfon i. Bydd pwy bynnag sy’n rhoi croeso i broffwyd am ei fod yn cyhoeddi neges Duw yn derbyn yr un wobr â’r proffwyd, a phwy bynnag sy’n rhoi croeso i un cyfiawn am ei fod yn gwneud beth sy’n iawn yng ngolwg Duw yn derbyn yr un wobr â’r un cyfiawn. Does ond rhaid i rywun roi diod o ddŵr oer i un o’r rhai bach yma sy’n ddilynwyr i mi, a chredwch chi fi, bydd y person yna’n siŵr o gael ei wobr.”
Mathew 10:40-42 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Y mae'r sawl sy'n eich derbyn chwi yn fy nerbyn i, a'r sawl sy'n fy nerbyn i yn derbyn yr hwn a'm hanfonodd i. Pwy bynnag sy'n derbyn proffwyd am ei fod yn broffwyd, fe gaiff wobr proffwyd, a phwy bynnag sy'n derbyn un cyfiawn am ei fod yn un cyfiawn, fe gaiff wobr un cyfiawn. A phwy bynnag a rydd gymaint â chwpanaid o ddŵr oer i un o'r rhai bychain hyn am ei fod yn ddisgybl, yn wir, rwy'n dweud wrthych, ni chyll ei wobr.”
Mathew 10:40-42 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y neb sydd yn eich derbyn chwi, sydd yn fy nerbyn i; a’r neb sydd yn fy nerbyn i, sydd yn derbyn yr hwn a’m danfonodd i. Y neb sydd yn derbyn proffwyd yn enw proffwyd, a dderbyn wobr proffwyd; a’r neb sydd yn derbyn un cyfiawn yn enw un cyfiawn, a dderbyn wobr un cyfiawn. A phwy bynnag a roddo i’w yfed i un o’r rhai bychain hyn ffiolaid o ddwfr oer yn unig yn enw disgybl, yn wir meddaf i chwi, Ni chyll efe ei wobr.