Mathew 1:22-25 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Mathew 1:22-25 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Digwyddodd hyn er mwyn i beth ddwedodd Duw drwy ei broffwyd ddod yn wir: “Edrychwch! Bydd merch ifanc sy’n wyryf yn feichiog ac yn cael mab. Bydd y plentyn yn cael ei alw yn Emaniwel” (Ystyr Emaniwel ydy “Mae Duw gyda ni.”) Pan ddeffrodd Joseff, gwnaeth beth roedd angel Duw wedi’i ddweud wrtho. Priododd Mair, ond chafodd e ddim rhyw hefo hi nes i’w mab gael ei eni. A rhoddodd yr enw Iesu iddo.
Mathew 1:22-25 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A digwyddodd hyn oll fel y cyflawnid y gair a lefarwyd gan yr Arglwydd trwy'r proffwyd: “Wele, bydd y wyryf yn beichiogi, ac yn esgor ar fab, a gelwir ef Immanuel”, hynny yw, o'i gyfieithu, “Y mae Duw gyda ni”. A phan ddeffrôdd Joseff o'i gwsg, gwnaeth fel yr oedd angel yr Arglwydd wedi gorchymyn, a chymryd Mair yn wraig iddo. Ond ni chafodd gyfathrach â hi hyd nes iddi esgor ar fab; a galwodd ef Iesu.
Mathew 1:22-25 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
(A hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy’r proffwyd, gan ddywedyd, Wele, morwyn a fydd feichiog, ac a esgor ar fab; a hwy a alwant ei enw ef Emanuel; yr hyn o’i gyfieithu yw, Duw gyda ni.) A Joseff, pan ddeffroes o gwsg, a wnaeth megis y gorchmynasai angel yr Arglwydd iddo, ac a gymerodd ei wraig: Ac nid adnabu efe hi hyd onid esgorodd hi ar ei mab cyntaf-anedig. A galwodd ei enw ef IESU.