Mathew 1:18-19
Mathew 1:18-19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma ddigwyddodd pan gafodd Iesu y Meseia ei eni: Roedd ei fam, Mair, wedi cael ei haddo i fod yn wraig i Joseff. Ond cyn iddyn nhw briodi a chael rhyw, dyma nhw’n darganfod fod yr Ysbryd Glân wedi’i gwneud hi’n feichiog. Roedd Joseff, oedd yn mynd i’w phriodi, yn ddyn da a charedig. Doedd e ddim eisiau gwneud esiampl ohoni a’i chyhuddo hi’n gyhoeddus, felly roedd yn ystyried yn dawel fach i ganslo’r briodas.
Mathew 1:18-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Fel hyn y bu genedigaeth Iesu Grist. Pan oedd Mair ei fam wedi ei dyweddïo i Joseff, cyn iddynt ddod at ei gilydd fe gafwyd ei bod hi'n feichiog o'r Ysbryd Glân. A chan ei fod yn ddyn cyfiawn, ond heb ddymuno ei chywilyddio'n gyhoeddus, penderfynodd Joseff, ei gŵr, ei gollwng ymaith yn ddirgel.
Mathew 1:18-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A genedigaeth yr Iesu Grist oedd fel hyn: Wedi dyweddïo Mair ei fam ef â Joseff, cyn eu dyfod hwy ynghyd, hi a gafwyd yn feichiog o’r Ysbryd Glân. A Joseff ei gŵr hi, gan ei fod yn gyfiawn, ac heb chwennych ei gwneuthur hi yn siampl, a ewyllysiodd ei rhoi hi ymaith yn ddirgel.