Mathew 1:1-3
Mathew 1:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Rhestr achau Iesu y Meseia, oedd yn un o ddisgynyddion y Brenin Dafydd, ac Abraham hefyd: Abraham oedd tad Isaac, Isaac oedd tad Jacob, Jacob oedd tad Jwda a’i frodyr, Jwda oedd tad Peres a Sera (a Tamar oedd eu mam), Peres oedd tad Hesron, Hesron oedd tad Ram
Mathew 1:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dyma restr achau Iesu Grist, Mab Dafydd, mab Abraham. Yr oedd Abraham yn dad i Isaac, Isaac yn dad i Jacob, a Jacob yn dad i Jwda a'i frodyr. Yr oedd Jwda yn dad i Peres a Sera, a Tamar yn fam iddynt; yr oedd Peres yn dad i Hesron, Hesron i Ram
Mathew 1:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Llyfr cenhedliad Iesu Grist, fab Dafydd, fab Abraham. Abraham a genhedlodd Isaac; ac Isaac a genhedlodd Jacob; a Jacob a genhedlodd Jwdas a’i frodyr; A Jwdas a genhedlodd Phares a Sara o Thamar; a Phares a genhedlodd Esrom; ac Esrom a genhedlodd Aram