Malachi 3:1
Malachi 3:1 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
“Edrychwch, dw i’n anfon fy negesydd, a bydd e’n paratoi’r ffordd ar fy nghyfer i. Ac yn sydyn, bydd y Meistr dych chi’n ei geisio yn dod i’w deml. Ydy, mae angel yr ymrwymiad, dych chi’n honni ei hoffi, ar ei ffordd!” –meddai’r ARGLWYDD hollbwerus.
Malachi 3:1 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Wele fi'n anfon fy nghennad i baratoi fy ffordd o'm blaen; ac yn sydyn fe ddaw'r Arglwydd yr ydych yn ei geisio i mewn i'w deml; y mae cennad y cyfamod yr ydych yn hoff ohono yn dod,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.
Malachi 3:1 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Wele fi yn anfon fy nghennad, ac efe a arloesa y ffordd o’m blaen i: ac yn ddisymwth y daw yr ARGLWYDD, yr hwn yr ydych yn ei geisio, i’w deml; sef angel y cyfamod yr hwn yr ydych yn ei chwennych: wele efe yn dyfod, medd ARGLWYDD y lluoedd.