Malachi 2:14-16
Malachi 2:14-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Ond pam?” meddech chi. Am fod yr ARGLWYDD yn dyst i’r addewidion wnest ti i dy wraig pan briodaist. Ti wedi bod yn anffyddlon iddi er mai hi ydy dy gymar di, a’r un wnest ti ymrwymo iddi drwy briodas. Oni wnaeth Duw chi’n un? Gwnaeth chi’n un cnawd ac ysbryd. A beth sydd gan Dduw eisiau o’r undod? Onid plant duwiol? Felly gwyliwch eich hunain! Ddylai neb fod yn anffyddlon i’r wraig briododd pan yn ifanc. “Dw i’n casáu ysgariad,” –meddai’r ARGLWYDD, Duw Israel, “a’r rhai sy’n euog o drais,” –meddai’r ARGLWYDD hollbwerus. Felly gwyliwch eich hunain! Ddylai neb fod yn anffyddlon.
Malachi 2:14-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr ydych yn gofyn, “Pam?” Am i'r ARGLWYDD fod yn dyst rhyngot ti a gwraig dy ieuenctid, y buost yn anffyddlon iddi, er mai hi yw dy gymar a'th wraig trwy gyfamod. Onid yn un y gwnaeth chwi, yn gnawd ac ysbryd? A beth yw amcan yr undod hwn, ond cael plant i Dduw? Gwyliwch arnoch eich hunain rhag bod yn anffyddlon i wraig eich ieuenctid. “Oherwydd yr wyf yn casáu ysgariad,” medd ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, “a'r sawl sy'n gwisgo trais fel dilledyn,” medd ARGLWYDD y Lluoedd. Felly, gwyliwch arnoch eich hunain rhag bod yn anffyddlon.
Malachi 2:14-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Er hynny chwi a ddywedwch, Pa herwydd? Oherwydd mai yr ARGLWYDD a fu dyst rhyngot ti a rhwng gwraig dy ieuenctid, yr hon y buost anffyddlon iddi; er ei bod yn gymar i ti, ac yn wraig dy gyfamod. Onid un a wnaeth efe? a’r ysbryd yng ngweddill ganddo. A phaham un? I geisio had duwiol. Am hynny gwyliwch ar eich ysbryd, ac na fydded neb anffyddlon yn erbyn gwraig ei ieuenctid. Pan gasaech di hi, gollwng hi ymaith, medd yr ARGLWYDD, DUW Israel: canys gorchuddio y mae efe drais â’i wisg, medd ARGLWYDD y lluoedd: gan hynny gwyliwch ar eich ysbryd, na fyddoch anffyddlon.