Luc 8:4-18
Luc 8:4-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dwedodd y stori yma pan oedd tyrfa fawr o bobl o wahanol drefi wedi casglu at ei gilydd: “Aeth ffermwr allan i hau hadau. Wrth iddo wasgaru’r had, dyma beth ohono yn syrthio ar y llwybr. Cafodd ei sathru dan draed, a dyma’r adar yn ei fwyta. Dyma beth ohono yn syrthio ar dir creigiog, ond wrth ddechrau tyfu dyma fe’n gwywo am fod dim dŵr ganddo. A dyma beth yn syrthio i ganol drain. Tyfodd y drain yr un pryd a thagu’r planhigion. Ond syrthiodd peth ohono ar bridd da. Tyfodd hwnnw, a rhoddodd gnwd oedd gan gwaith mwy na beth gafodd ei hau.” Ar ôl dweud hyn, galwodd allan yn uchel, “Gwrandwch yn ofalus os dych chi’n awyddus i ddysgu!” Yn nes ymlaen dyma’i ddisgyblion yn gofyn iddo beth oedd ystyr y stori. Atebodd Iesu, “Dych chi’n cael gwybod beth ydy’r gyfrinach am deyrnasiad Duw, ond i eraill dw i ddim ond yn adrodd straeon, felly, ‘Er eu bod yn edrych, chân nhw ddim gweld; er eu bod yn gwrando, chân nhw ddim deall.’ “Dyma beth ydy ystyr y stori: Neges Duw ydy’r hadau. Y rhai ar y llwybr ydy’r bobl sy’n clywed y neges, ond mae’r diafol yn dod ac yn cipio’r neges oddi arnyn nhw, i’w rhwystro nhw rhag credu a chael eu hachub. Y rhai ar y tir creigiog ydy’r bobl hynny sy’n derbyn y neges yn frwd i ddechrau, ond dydy’r neges ddim yn gafael ynddyn nhw. Maen nhw’n credu am sbel, ond pan ddaw’r amser iddyn nhw gael eu profi maen nhw’n rhoi’r gorau iddi. Yna’r rhai syrthiodd i ganol drain ydy’r bobl sy’n clywed y neges, ond mae poeni drwy’r adeg am bethau fel cyfoeth a phleserau yn eu tagu, a dŷn nhw ddim yn aeddfedu. Ond yr hadau syrthiodd i bridd da ydy’r bobl hynny sy’n clywed y neges ac yn dal gafael i’r diwedd – pobl sydd â chalon agored ddidwyll. Mae’r effaith ar eu bywydau nhw fel cnwd anferth. “Dydy pobl ddim yn goleuo lamp ac yna’n rhoi rhywbeth drosti neu’n ei chuddio dan y gwely. Na, mae’n cael ei gosod ar fwrdd, er mwyn i bawb sy’n dod i mewn allu gweld. Bydd popeth sydd wedi’i guddio yn cael ei weld yn glir maes o law. Bydd pob cyfrinach yn cael ei rhannu ac yn dod i’r golwg. Felly gwrandwch yn ofalus. Bydd y rhai sydd wedi deall yn derbyn mwy; ond am y rhai hynny sydd heb ddeall, bydd hyd yn oed yr hyn maen nhw’n meddwl maen nhw’n ei ddeall yn cael ei gymryd oddi arnyn nhw.”
Luc 8:4-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr oedd tyrfa fawr yn ymgynnull, a phobl o bob tref yn dod ato. Dywedodd ef ar ddameg: “Aeth heuwr allan i hau ei had. Wrth iddo hau, syrthiodd peth had ar hyd y llwybr; sathrwyd arno, a bwytaodd adar yr awyr ef. Syrthiodd peth arall ar y graig; tyfodd, ond gwywodd am nad oedd iddo wlybaniaeth. Syrthiodd peth arall i ganol y drain; tyfodd y drain gydag ef a'i dagu. A syrthiodd peth arall ar dir da; tyfodd, a chnydiodd hyd ganwaith cymaint.” Wrth ddweud hyn fe waeddodd, “Y sawl sydd â chlustiau ganddo i wrando, gwrandawed.” Gofynnodd ei ddisgyblion iddo beth oedd ystyr y ddameg hon. Meddai ef, “I chwi y mae gwybod cyfrinachau teyrnas Dduw wedi ei roi, ond i bawb arall y maent ar ddamhegion, fel “ ‘er edrych, na welant, ac er clywed, na ddeallant’. “Dyma ystyr y ddameg. Yr had yw gair Duw. Y rhai ar hyd y llwybr yw'r sawl sy'n clywed, ac yna daw'r diafol a chipio'r gair o'u calonnau, rhag iddynt gredu a chael eu hachub. Y rhai ar y graig yw'r sawl sydd, pan glywant, yn croesawu'r gair yn llawen. Ond gan y rhain nid oes gwreiddyn; dros dro y credant, ac mewn awr o brawf fe wrthgiliant. Yr hyn a syrthiodd ymhlith y drain, dyma'r sawl sy'n clywed, ond wrth iddynt fynd ar eu hynt cânt eu tagu gan ofalon a golud a phleserau bywyd, ac ni ddygant eu ffrwyth i aeddfedrwydd. Ond hwnnw yn y tir da, dyna'r sawl sy'n clywed y gair â chalon dda rinweddol, yn dal eu gafael ynddo ac yn dwyn ffrwyth trwy ddyfalbarhad. “Ni bydd neb yn cynnau cannwyll ac yn ei chuddio â llestr neu'n ei dodi dan y gwely. Nage, ar ganhwyllbren y dodir hi, er mwyn i'r rhai sy'n dod i mewn weld ei goleuni. Oherwydd nid oes dim yn guddiedig na ddaw'n amlwg, na dim dan gêl na cheir ei wybod ac na ddaw i'r amlwg. Ystyriwch gan hynny sut yr ydych yn gwrando, oherwydd i'r sawl y mae ganddo y rhoir, ac oddi ar y sawl nad oes ganddo y cymerir hyd yn oed hynny y mae ef yn tybio ei fod ganddo.”
Luc 8:4-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wedi i lawer o bobl ymgynnull ynghyd, a chyrchu ato o bob dinas, efe a ddywedodd ar ddameg: Yr heuwr a aeth allan i hau ei had: ac wrth hau, peth a syrthiodd ar ymyl y ffordd, ac a fathrwyd; ac ehediaid y nef a’i bwytaodd. A pheth arall a syrthiodd ar y graig; a phan eginodd, y gwywodd, am nad oedd iddo wlybwr. A pheth arall a syrthiodd ymysg drain; a’r drain a gyd-dyfasant, ac a’i tagasant ef. A pheth arall a syrthiodd ar dir da; ac a eginodd, ac a ddug ffrwyth ar ei ganfed. Wrth ddywedyd y pethau hyn, efe a lefodd, Y neb sydd â chlustiau ganddo i wrando, gwrandawed. A’i ddisgyblion a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Pa ddameg oedd hon? Yntau a ddywedodd, I chwi y rhoddwyd gwybod dirgeloedd teyrnas Dduw; eithr i eraill ar ddamhegion; fel yn gweled na welant, ac yn clywed na ddeallant. A dyma’r ddameg: Yr had yw gair Duw. A’r rhai ar ymyl y ffordd, ydyw’r rhai sydd yn gwrando, wedi hynny y mae’r diafol yn dyfod, ac yn dwyn ymaith y gair o’u calon hwynt, rhag iddynt gredu, a bod yn gadwedig. A’r rhai ar y graig, yw’r rhai pan glywant, a dderbyniant y gair yn llawen; a’r rhai hyn nid oes ganddynt wreiddyn, y rhai sydd yn credu dros amser, ac yn amser profedigaeth yn cilio. A’r hwn a syrthiodd ymysg drain, yw’r rhai a wrandawsant; ac wedi iddynt fyned ymaith, hwy a dagwyd gan ofalon, a golud, a melyswedd buchedd, ac nid ydynt yn dwyn ffrwyth i berffeithrwydd. A’r hwn ar y tir da, yw’r rhai hyn, y rhai â chalon hawddgar a da, ydynt yn gwrando’r gair, ac yn ei gadw, ac yn dwyn ffrwyth trwy amynedd. Nid yw neb wedi golau cannwyll, yn ei chuddio hi â llestr, neu yn ei dodi dan wely; eithr yn ei gosod ar ganhwyllbren, fel y caffo’r rhai a ddêl i mewn weled y goleuni. Canys nid oes dim dirgel, a’r ni bydd amlwg; na dim cuddiedig, a’r nis gwybyddir, ac na ddaw i’r golau. Edrychwch am hynny pa fodd y clywoch: canys pwy bynnag y mae ganddo, y rhoddir iddo; a’r neb nid oes ganddo, ie, yr hyn y mae’n tybied ei fod ganddo, a ddygir oddi arno.