Luc 8:1-15
Luc 8:1-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Am beth amser wedyn roedd Iesu’n teithio o gwmpas y trefi a’r pentrefi yn cyhoeddi’r newyddion da am Dduw yn teyrnasu. Roedd y deuddeg disgybl gydag e, a hefyd rhyw wragedd oedd wedi cael eu hiacháu o effeithiau ysbrydion drwg ac afiechydon: Mair, oedd yn cael ei galw’n Magdalen – roedd saith o gythreuliaid wedi dod allan ohoni hi; Joanna, gwraig Chwsa (prif reolwr palas Herod); Swsana, a nifer o rai eraill oedd yn defnyddio’u harian i helpu i gynnal Iesu a’i ddisgyblion. Dwedodd y stori yma pan oedd tyrfa fawr o bobl o wahanol drefi wedi casglu at ei gilydd: “Aeth ffermwr allan i hau hadau. Wrth iddo wasgaru’r had, dyma beth ohono yn syrthio ar y llwybr. Cafodd ei sathru dan draed, a dyma’r adar yn ei fwyta. Dyma beth ohono yn syrthio ar dir creigiog, ond wrth ddechrau tyfu dyma fe’n gwywo am fod dim dŵr ganddo. A dyma beth yn syrthio i ganol drain. Tyfodd y drain yr un pryd a thagu’r planhigion. Ond syrthiodd peth ohono ar bridd da. Tyfodd hwnnw, a rhoddodd gnwd oedd gan gwaith mwy na beth gafodd ei hau.” Ar ôl dweud hyn, galwodd allan yn uchel, “Gwrandwch yn ofalus os dych chi’n awyddus i ddysgu!” Yn nes ymlaen dyma’i ddisgyblion yn gofyn iddo beth oedd ystyr y stori. Atebodd Iesu, “Dych chi’n cael gwybod beth ydy’r gyfrinach am deyrnasiad Duw, ond i eraill dw i ddim ond yn adrodd straeon, felly, ‘Er eu bod yn edrych, chân nhw ddim gweld; er eu bod yn gwrando, chân nhw ddim deall.’ “Dyma beth ydy ystyr y stori: Neges Duw ydy’r hadau. Y rhai ar y llwybr ydy’r bobl sy’n clywed y neges, ond mae’r diafol yn dod ac yn cipio’r neges oddi arnyn nhw, i’w rhwystro nhw rhag credu a chael eu hachub. Y rhai ar y tir creigiog ydy’r bobl hynny sy’n derbyn y neges yn frwd i ddechrau, ond dydy’r neges ddim yn gafael ynddyn nhw. Maen nhw’n credu am sbel, ond pan ddaw’r amser iddyn nhw gael eu profi maen nhw’n rhoi’r gorau iddi. Yna’r rhai syrthiodd i ganol drain ydy’r bobl sy’n clywed y neges, ond mae poeni drwy’r adeg am bethau fel cyfoeth a phleserau yn eu tagu, a dŷn nhw ddim yn aeddfedu. Ond yr hadau syrthiodd i bridd da ydy’r bobl hynny sy’n clywed y neges ac yn dal gafael i’r diwedd – pobl sydd â chalon agored ddidwyll. Mae’r effaith ar eu bywydau nhw fel cnwd anferth.
Luc 8:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wedi hynny bu ef yn teithio trwy dref a phentref gan bregethu a chyhoeddi'r newydd da am deyrnas Dduw. Yr oedd y Deuddeg gydag ef, ynghyd â rhai gwragedd oedd wedi eu hiacháu oddi wrth ysbrydion drwg ac afiechydon: Mair a elwid Magdalen, yr un yr oedd saith gythraul wedi dod allan ohoni; Joanna gwraig Chwsa, goruchwyliwr Herod; Swsanna, a llawer eraill; yr oedd y rhain yn gweini arnynt o'u hadnoddau eu hunain. Yr oedd tyrfa fawr yn ymgynnull, a phobl o bob tref yn dod ato. Dywedodd ef ar ddameg: “Aeth heuwr allan i hau ei had. Wrth iddo hau, syrthiodd peth had ar hyd y llwybr; sathrwyd arno, a bwytaodd adar yr awyr ef. Syrthiodd peth arall ar y graig; tyfodd, ond gwywodd am nad oedd iddo wlybaniaeth. Syrthiodd peth arall i ganol y drain; tyfodd y drain gydag ef a'i dagu. A syrthiodd peth arall ar dir da; tyfodd, a chnydiodd hyd ganwaith cymaint.” Wrth ddweud hyn fe waeddodd, “Y sawl sydd â chlustiau ganddo i wrando, gwrandawed.” Gofynnodd ei ddisgyblion iddo beth oedd ystyr y ddameg hon. Meddai ef, “I chwi y mae gwybod cyfrinachau teyrnas Dduw wedi ei roi, ond i bawb arall y maent ar ddamhegion, fel “ ‘er edrych, na welant, ac er clywed, na ddeallant’. “Dyma ystyr y ddameg. Yr had yw gair Duw. Y rhai ar hyd y llwybr yw'r sawl sy'n clywed, ac yna daw'r diafol a chipio'r gair o'u calonnau, rhag iddynt gredu a chael eu hachub. Y rhai ar y graig yw'r sawl sydd, pan glywant, yn croesawu'r gair yn llawen. Ond gan y rhain nid oes gwreiddyn; dros dro y credant, ac mewn awr o brawf fe wrthgiliant. Yr hyn a syrthiodd ymhlith y drain, dyma'r sawl sy'n clywed, ond wrth iddynt fynd ar eu hynt cânt eu tagu gan ofalon a golud a phleserau bywyd, ac ni ddygant eu ffrwyth i aeddfedrwydd. Ond hwnnw yn y tir da, dyna'r sawl sy'n clywed y gair â chalon dda rinweddol, yn dal eu gafael ynddo ac yn dwyn ffrwyth trwy ddyfalbarhad.
Luc 8:1-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A bu wedi hynny, iddo fyned trwy bob dinas a thref, gan bregethu, ac efengylu teyrnas Dduw: a’r deuddeg oedd gydag ef; A gwragedd rai, a’r a iachesid oddi wrth ysbrydion drwg a gwendid; Mair yr hon a elwid Magdalen, o’r hon yr aethai saith gythraul allan; Joanna, gwraig Chusa goruchwyliwr Herod, a Susanna, a llawer eraill, y rhai oedd yn gweini iddo o’r pethau oedd ganddynt. Ac wedi i lawer o bobl ymgynnull ynghyd, a chyrchu ato o bob dinas, efe a ddywedodd ar ddameg: Yr heuwr a aeth allan i hau ei had: ac wrth hau, peth a syrthiodd ar ymyl y ffordd, ac a fathrwyd; ac ehediaid y nef a’i bwytaodd. A pheth arall a syrthiodd ar y graig; a phan eginodd, y gwywodd, am nad oedd iddo wlybwr. A pheth arall a syrthiodd ymysg drain; a’r drain a gyd-dyfasant, ac a’i tagasant ef. A pheth arall a syrthiodd ar dir da; ac a eginodd, ac a ddug ffrwyth ar ei ganfed. Wrth ddywedyd y pethau hyn, efe a lefodd, Y neb sydd â chlustiau ganddo i wrando, gwrandawed. A’i ddisgyblion a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Pa ddameg oedd hon? Yntau a ddywedodd, I chwi y rhoddwyd gwybod dirgeloedd teyrnas Dduw; eithr i eraill ar ddamhegion; fel yn gweled na welant, ac yn clywed na ddeallant. A dyma’r ddameg: Yr had yw gair Duw. A’r rhai ar ymyl y ffordd, ydyw’r rhai sydd yn gwrando, wedi hynny y mae’r diafol yn dyfod, ac yn dwyn ymaith y gair o’u calon hwynt, rhag iddynt gredu, a bod yn gadwedig. A’r rhai ar y graig, yw’r rhai pan glywant, a dderbyniant y gair yn llawen; a’r rhai hyn nid oes ganddynt wreiddyn, y rhai sydd yn credu dros amser, ac yn amser profedigaeth yn cilio. A’r hwn a syrthiodd ymysg drain, yw’r rhai a wrandawsant; ac wedi iddynt fyned ymaith, hwy a dagwyd gan ofalon, a golud, a melyswedd buchedd, ac nid ydynt yn dwyn ffrwyth i berffeithrwydd. A’r hwn ar y tir da, yw’r rhai hyn, y rhai â chalon hawddgar a da, ydynt yn gwrando’r gair, ac yn ei gadw, ac yn dwyn ffrwyth trwy amynedd.