Luc 7:21-22
Luc 7:21-22 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r awr honno efe a iachaodd lawer oddi wrth glefydau, a phlâu, ac ysbrydion drwg; ac i lawer o ddeillion y rhoddes efe eu golwg. A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ewch, a mynegwch i Ioan y pethau a welsoch ac a glywsoch; fod y deillion yn gweled eilwaith, y cloffion yn rhodio, y gwahanglwyfus wedi eu glanhau, y byddariaid yn clywed, y meirw yn cyfodi, y tlodion yn derbyn yr efengyl.
Luc 7:21-22 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yr adeg yna roedd Iesu wedi bod wrthi’n iacháu llawer o bobl oedd yn dioddef o afiechydon a phoenau, a dylanwad ysbrydion drwg. Roedd wedi rhoi eu golwg yn ôl i lawer o bobl ddall hefyd. Felly ei ateb iddyn nhw oedd, “Ewch yn ôl a dweud wrth Ioan beth dych chi wedi’i weld a’i glywed: Mae pobl ddall yn cael gweld, pobl gloff yn cerdded, pobl sy’n dioddef o’r gwahanglwyf yn cael eu hiacháu, pobl fyddar yn clywed, a phobl sydd wedi marw yn dod yn ôl yn fyw. Ac mae’r newyddion da yn cael ei gyhoeddi i bobl dlawd!
Luc 7:21-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y pryd hwnnw iachaodd ef lawer o afael afiechydon a phlâu ac ysbrydion drwg, a rhoes eu golwg i lawer o ddeillion. Ac atebodd ef hwy, “Ewch a dywedwch wrth Ioan yr hyn yr ydych wedi ei weld ac wedi ei glywed. Y mae'r deillion yn cael eu golwg yn ôl, y cloffion yn cerdded, y gwahangleifion yn cael eu glanhau a'r byddariaid yn clywed, y meirw yn codi, y tlodion yn cael clywed y newydd da.