Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 24:13-16 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Luc 24:13-16 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Yr un diwrnod, roedd dau o ddilynwyr Iesu ar eu ffordd i bentref Emaus, sydd ryw saith milltir o Jerwsalem. Roedden nhw’n sgwrsio am bopeth oedd wedi digwydd. Wrth i’r drafodaeth fynd yn ei blaen dyma Iesu’n dod atyn nhw a dechrau cerdded gyda nhw. Ond doedden nhw ddim yn sylweddoli pwy oedd e, am fod Duw wedi’u rhwystro rhag ei nabod e.

Luc 24:13-16 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Yn awr, yr un dydd, yr oedd dau ohonynt ar eu ffordd i bentref, oddeutu un cilomedr ar ddeg o Jerwsalem, o'r enw Emaus. Yr oeddent yn ymddiddan â'i gilydd am yr holl ddigwyddiadau hyn. Yn ystod yr ymddiddan a'r trafod, nesaodd Iesu ei hun atynt a dechrau cerdded gyda hwy, ond rhwystrwyd eu llygaid rhag ei adnabod ef.

Luc 24:13-16 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Ac wele, dau ohonynt oedd yn myned y dydd hwnnw i dref a’i henw Emaus, yr hon oedd ynghylch tri ugain ystad oddi wrth Jerwsalem. Ac yr oeddynt hwy yn ymddiddan â’i gilydd am yr holl bethau hyn a ddigwyddasent. A bu, fel yr oeddynt yn ymddiddan, ac yn ymofyn â’i gilydd, yr Iesu ei hun hefyd a nesaodd, ac a aeth gyda hwynt. Eithr eu llygaid hwynt a ataliwyd, fel nas adwaenent ef.