Luc 23:8-12
Luc 23:8-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd Herod wrth ei fodd ei fod yn cael cyfle i weld Iesu. Roedd wedi clywed amdano ers amser maith, ac wedi bod yn gobeithio cael ei weld yn gwneud rhywbeth gwyrthiol. Gofynnodd un cwestiwn ar ôl y llall i Iesu, ond roedd Iesu’n gwrthod ateb. A dyna lle roedd y prif offeiriaid a’r arbenigwyr yn y Gyfraith yn ei gyhuddo’n ffyrnig. Yna dyma Herod a’i filwyr yn dechrau gwneud hwyl am ei ben a’i sarhau. Dyma nhw’n ei wisgo mewn clogyn crand, a’i anfon yn ôl at Peilat. Cyn i hyn i gyd ddigwydd roedd Herod a Peilat wedi bod yn elynion, ond dyma nhw’n dod yn ffrindiau y diwrnod hwnnw.
Luc 23:8-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan welodd Herod Iesu, mawr oedd ei lawenydd; bu'n awyddus ers amser hir i'w weld, gan iddo glywed amdano, ac yr oedd yn gobeithio ei weld yn cyflawni rhyw wyrth. Bu'n ei holi'n faith, ond nid atebodd Iesu iddo yr un gair. Yr oedd y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion yno, yn ei gyhuddo yn ffyrnig. A'i drin yn sarhaus a wnaeth Herod hefyd, ynghyd â'i filwyr. Fe'i gwatwarodd, a gosododd wisg ysblennydd amdano, cyn cyfeirio'r achos yn ôl at Pilat. Daeth Herod a Philat yn gyfeillion i'w gilydd y dydd hwnnw; cyn hynny yr oedd gelyniaeth rhyngddynt.
Luc 23:8-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Herod, pan welodd yr Iesu, a lawenychodd yn fawr: canys yr oedd efe yn chwennych er ys talm ei weled ef, oblegid iddo glywed llawer amdano ef; ac yr ydoedd yn gobeithio cael gweled gwneuthur rhyw arwydd ganddo ef. Ac efe a’i holodd ef mewn llawer o eiriau; eithr efe nid atebodd ddim iddo. A’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a safasant, gan ei gyhuddo ef yn haerllug. A Herod a’i filwyr, wedi iddo ei ddiystyru ef, a’i watwar, a’i wisgo â gwisg glaerwen, a’i danfonodd ef drachefn at Peilat. A’r dwthwn hwnnw yr aeth Peilat a Herod yn gyfeillion: canys yr oeddynt o’r blaen mewn gelyniaeth â’i gilydd.