Luc 23:50-56
Luc 23:50-56 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd yna ddyn o’r enw Joseff oedd yn dod o dref Arimathea yn Jwdea. Roedd yn ddyn da a gonest, ac yn aelod o’r Sanhedrin Iddewig, ond doedd e ddim wedi cytuno â’r penderfyniad wnaeth yr arweinwyr eraill. Roedd Joseff yn ddyn oedd yn disgwyl i Dduw ddod i deyrnasu. Aeth i ofyn i Peilat am ganiatâd i gymryd corff Iesu. Tynnodd y corff i lawr a’i lapio gyda lliain ac yna ei roi i orwedd mewn bedd newydd oedd wedi’i naddu yn y graig – doedd neb erioed wedi’i gladdu yno o’r blaen. Roedd hi’n hwyr bnawn dydd Gwener a’r Saboth ar fin dechrau. Roedd y gwragedd o Galilea oedd gyda Iesu wedi dilyn Joseff, ac wedi gweld y bedd lle cafodd y corff ei osod. Ar ôl mynd adre i baratoi cymysgedd o berlysiau a pheraroglau i eneinio’r corff, dyma nhw’n gorffwys dros y Saboth, fel mae Cyfraith Moses yn ei ddweud.
Luc 23:50-56 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr oedd dyn o'r enw Joseff, aelod o'r Cyngor a dyn da a chyfiawn, nad oedd wedi cydsynio â'u penderfyniad a'u gweithred hwy. Yr oedd yn hanu o Arimathea, un o drefi'r Iddewon, ac yn disgwyl am deyrnas Dduw. Aeth hwn at Pilat a gofyn am gorff Iesu. Wedi ei dynnu ef i lawr a'i amdói mewn lliain, gosododd ef mewn bedd wedi ei naddu, lle nad oedd neb hyd hynny wedi gorwedd. Dydd y Paratoad oedd hi, ac yr oedd y Saboth ar ddechrau. Fe ddilynodd y gwragedd oedd wedi dod gyda Iesu o Galilea, a gwelsant y bedd a'r modd y gosodwyd ei gorff. Yna aethant yn eu holau i baratoi peraroglau ac eneiniau. Ar y Saboth buont yn gorffwys yn ôl y gorchymyn.
Luc 23:50-56 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wele, gŵr a’i enw Joseff, yr hwn oedd gynghorwr, gŵr da a chyfiawn: (Hwn ni chytunasai â’u cyngor ac â’u gweithred hwynt;) o Arimathea, dinas yr Iddewon, yr hwn oedd yntau yn disgwyl hefyd am deyrnas Dduw; Hwn a ddaeth at Peilat, ac a ofynnodd gorff yr Iesu. Ac efe a’i tynnodd i lawr, ac a’i hamdôdd mewn lliain main, ac a’i rhoddes mewn bedd wedi ei naddu mewn carreg, yn yr hwn ni roddasid dyn erioed. A’r dydd hwnnw oedd ddarpar-ŵyl, a’r Saboth oedd yn nesáu. A’r gwragedd hefyd, y rhai a ddaethent gydag ef o Galilea, a ganlynasant, ac a welsant y bedd, a pha fodd y dodwyd ei gorff ef. A hwy a ddychwelasant, ac a baratoesant beraroglau ac ennaint; ac a orffwysasant ar y Saboth, yn ôl y gorchymyn.