Luc 20:27-38
Luc 20:27-38 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma rai o’r Sadwceaid yn dod i ofyn cwestiwn i Iesu. (Nhw ydy’r arweinwyr Iddewig sy’n dweud fod pobl ddim yn mynd i ddod yn ôl yn fyw ar ôl marw.) “Athro,” medden nhw, “rhoddodd Moses y rheol yma i ni: os ydy dyn yn marw heb gael plant, rhaid i frawd y dyn hwnnw briodi’r weddw a chael plant yn ei le Nawr, roedd saith brawd. Priododd yr hynaf, a buodd farw heb gael plant. Dyma’r ail, ac yna’r trydydd yn priodi’r weddw. Yn wir, digwyddodd yr un peth gyda’r saith – wnaeth yr un ohonyn nhw adael plentyn ar ei ôl. Dyma’r wraig yn marw wedyn hefyd. Felly dyma’n cwestiwn ni: ‘Pan fydd yr atgyfodiad yn digwydd, gwraig pwy fydd hi?’ Roedd hi wedi bod yn wraig i’r saith ohonyn nhw!” Atebodd Iesu, “Yn y bywyd yma mae pobl yn priodi. Ond yn yr oes sydd i ddod, fydd pobl ddim yn priodi – sef y bobl hynny sy’n cael eu cyfri’n deilwng i fod yn rhan ohoni ac wedi codi yn ôl yn fyw. A fyddan nhw ddim yn marw eto. Byddan nhw yr un fath â’r angylion yn hynny o beth. Maen nhw’n blant Duw wedi’u codi yn ôl i fywyd newydd. A bydd y meirw’n dod yn ôl yn fyw! Mae hyd yn oed Moses yn dangos fod hynny’n wir! Yn yr hanes am y berth yn llosgi mae’n dweud mai’r Arglwydd Dduw ydy ‘Duw Abraham, Duw Isaac a Duw Jacob’. Dim Duw pobl wedi marw ydy Duw, ond Duw’r rhai sy’n fyw! Maen nhw i gyd yn fyw iddo fe!”
Luc 20:27-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Daeth ato rai o'r Sadwceaid, y bobl sy'n dal nad oes dim atgyfodiad. Gofynasant iddo, “Athro, ysgrifennodd Moses ar ein cyfer, os bydd rhywun farw yn ŵr priod, ond yn ddi-blant, fod ei frawd i gymryd y wraig ac i godi plant i'w frawd. Yn awr, yr oedd saith o frodyr. Cymerodd y cyntaf wraig, a bu farw'n ddi-blant. Cymerodd yr ail a'r trydydd hi, ac yn yr un modd bu'r saith farw heb adael plant. Yn ddiweddarach bu farw'r wraig hithau. Beth am y wraig felly? Yn yr atgyfodiad, gwraig p'run ohonynt fydd hi? Oherwydd cafodd y saith hi'n wraig.” Meddai Iesu wrthynt, “Y mae plant y byd hwn yn priodi ac yn cael eu priodi; ond y rhai a gafwyd yn deilwng i gyrraedd y byd hwnnw a'r atgyfodiad oddi wrth y meirw, ni phriodant ac ni phriodir hwy. Ni allant farw mwyach, oherwydd y maent fel angylion. Plant Duw ydynt, am eu bod yn blant yr atgyfodiad. Ond bod y meirw yn codi, y mae Moses yntau wedi dangos hynny yn hanes y Berth, pan ddywed, ‘Arglwydd Dduw Abraham a Duw Isaac a Duw Jacob’. Nid Duw'r meirw yw ef, ond y rhai byw, oherwydd y mae pawb yn fyw iddo ef.”
Luc 20:27-38 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A rhai o’r Sadwceaid (y rhai sydd yn gwadu nad oes atgyfodiad,) a ddaethant ato ef, ac a ofynasant iddo, Gan ddywedyd, Athro, Moses a ysgrifennodd i ni, Os byddai farw brawd neb, ac iddo wraig, a marw ohono yn ddi-blant, ar gymryd o’i frawd ei wraig ef, a chodi had i’w frawd. Yr oedd gan hynny saith o frodyr: a’r cyntaf a gymerodd wraig, ac a fu farw yn ddi-blant. A’r ail a gymerth y wraig, ac a fu farw yn ddi-blant. A’r trydydd a’i cymerth hi; ac yr un ffunud y saith hefyd: ac ni adawsant blant, ac a fuont feirw. Ac yn ddiwethaf oll bu farw’r wraig hefyd. Yn yr atgyfodiad gan hynny, gwraig i bwy un ohonynt yw hi? canys y saith a’i cawsant hi yn wraig. A’r Iesu gan ateb a ddywedodd wrthynt, Plant y byd hwn sydd yn gwreica, ac yn gwra: Eithr y rhai a gyfrifir yn deilwng i gael y byd hwnnw, a’r atgyfodiad oddi wrth y meirw, nid ydynt nac yn gwreica, nac yn gwra: Canys ni allant farw mwy: oblegid cyd-stad ydynt â’r angylion: a phlant Duw ydynt, gan eu bod yn blant yr atgyfodiad. Ac y cyfyd y meirw, Moses hefyd a hysbysodd wrth y berth, pan yw ef yn galw yr Arglwydd yn Dduw Abraham, ac yn Dduw Isaac, ac yn Dduw Jacob. Ac nid yw efe Dduw y meirw, ond y byw: canys pawb sydd fyw iddo ef.