Luc 19:38-40
Luc 19:38-40 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Mae’r Brenin sy’n dod i gynrychioli’r Arglwydd wedi’i fendithio’n fawr! ” “Heddwch yn y nefoedd a chlod i Dduw yn y goruchaf!” Ond dyma ryw Phariseaid oedd yn y dyrfa yn troi at Iesu a dweud, “Athro, cerydda dy ddisgyblion am ddweud y fath bethau!” Atebodd Iesu, “Petaen nhw’n tewi, byddai’r cerrig yn dechrau gweiddi.”
Luc 19:38-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
gan ddweud: “Bendigedig yw'r un sy'n dod yn frenin yn enw'r Arglwydd; yn y nef, tangnefedd, a gogoniant yn y goruchaf.” Ac meddai rhai o'r Phariseaid wrtho o'r dyrfa, “Athro, cerydda dy ddisgyblion.” Atebodd yntau, “Rwy'n dweud wrthych, os bydd y rhain yn tewi, bydd y cerrig yn gweiddi.”
Luc 19:38-40 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gan ddywedyd, Bendigedig yw y Brenin sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd: Tangnefedd yn y nef, a gogoniant yn y goruchaf. A rhai o’r Phariseaid o’r dyrfa a ddywedasant wrtho, Athro, cerydda dy ddisgyblion. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Pe tawai’r rhai hyn, y llefai’r cerrig yn y fan.