Luc 17:5-6
Luc 17:5-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma’r apostolion yn gofyn i’r Arglwydd, “Sut allwn ni gael mwy o ffydd?” Atebodd Iesu, “Petai’ch ffydd chi mor fach â hedyn mwstard, gallech chi ddweud wrth y goeden forwydden yma am gael ei chodi o’r ddaear wrth ei gwreiddiau a’i thaflu i’r môr, a byddai’n gwneud hynny!
Luc 17:5-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Meddai'r apostolion wrth yr Arglwydd, “Cryfha ein ffydd.” Ac meddai'r Arglwydd, “Pe bai gennych ffydd gymaint â hedyn mwstard, fe allech ddweud wrth y forwydden hon, ‘Coder dy wreiddiau a phlanner di yn y môr’, a byddai'n ufuddhau i chwi.
Luc 17:5-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r apostolion a ddywedasant wrth yr Arglwydd, Anghwanega ein ffydd ni. A’r Arglwydd a ddywedodd, Pe byddai gennych ffydd gymaint â gronyn o had mwstard, chwi a allech ddywedyd wrth y sycamorwydden hon, Ymddadwreiddia, a phlanner di yn y môr; a hi a ufuddhâi i chwi.