Luc 13:10-17
Luc 13:10-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd Iesu’n dysgu yn un o’r synagogau ryw Saboth, ac roedd gwraig yno oedd ag ysbryd drwg wedi’i gwneud hi’n anabl ers un deg wyth mlynedd. Roedd ei chefn wedi crymu nes ei bod yn methu sefyll yn syth o gwbl. Dyma Iesu’n ei gweld hi ac yn ei galw draw ato. “Wraig annwyl,” meddai wrthi, “rwyt ti’n mynd i gael dy iacháu o dy wendid.” Yna rhoddodd ei ddwylo arni, a dyma’i chefn yn sythu yn y fan a’r lle. A dechreuodd hi foli Duw. Ond roedd arweinydd y synagog wedi gwylltio am fod Iesu wedi iacháu ar y Saboth. Cododd a dweud wrth y bobl oedd yno, “Mae yna chwe diwrnod i weithio. Dewch i gael eich iacháu y dyddiau hynny, dim ar y Saboth!” Ond meddai’r Arglwydd wrtho, “Ti mor ddauwynebog! Dych chi i gyd yn gollwng ych ac asyn yn rhydd ar y Saboth, ac yn eu harwain at ddŵr. Dyma i chi ferch i Abraham – gwraig wedi’i rhwymo gan Satan ers un deg wyth mlynedd. Onid ydy’n iawn iddi hi hefyd gael ei gollwng yn rhydd ar y Saboth?” Roedd ei eiriau’n codi cywilydd ar ei wrthwynebwyr i gyd. Ond roedd y bobl gyffredin wrth eu bodd gyda’r holl bethau gwych roedd yn eu gwneud.
Luc 13:10-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr oedd yn dysgu yn un o'r synagogau ar y Saboth. Yr oedd yno wraig oedd ers deunaw mlynedd yng ngafael ysbryd oedd wedi bod yn ei gwanychu nes ei bod yn wargrwm ac yn hollol analluog i sefyll yn syth. Pan welodd Iesu hi galwodd arni, “Wraig, yr wyt wedi dy waredu o'th wendid.” Yna dododd ei ddwylo arni, ac ar unwaith ymunionodd drachefn, a dechrau gogoneddu Duw. Ond yr oedd arweinydd y synagog yn ddig fod Iesu wedi iacháu ar y Saboth, ac meddai wrth y dyrfa, “Y mae chwe diwrnod gwaith; dewch i'ch iacháu ar y dyddiau hynny, ac nid ar y dydd Saboth.” Atebodd yr Arglwydd ef, “Chwi ragrithwyr, onid yw pob un ohonoch ar y Saboth yn gollwng ei ych neu ei asyn o'r preseb ac yn mynd ag ef allan i'r dŵr? Ond dyma un o ferched Abraham, a fu yn rhwymau Satan ers deunaw mlynedd; a ddywedwch na ddylasid ei rhyddhau hi o'r rhwymyn hwn ar y dydd Saboth?” Wrth iddo ddweud hyn, codwyd cywilydd ar ei holl wrthwynebwyr, a llawenychodd y dyrfa i gyd oherwydd ei holl weithredoedd gogoneddus.
Luc 13:10-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yr oedd efe yn dysgu yn un o’r synagogau ar y Saboth. Ac wele, yr oedd gwraig ac ynddi ysbryd gwendid ddeunaw mlynedd, ac oedd wedi cydgrymu, ac ni allai hi mewn modd yn y byd ymunioni. Pan welodd yr Iesu hon, efe a’i galwodd hi ato, ac a ddywedodd wrthi, Ha wraig, rhyddhawyd di oddi wrth dy wendid. Ac efe a roddes ei ddwylo arni: ac yn ebrwydd hi a unionwyd, ac a ogoneddodd Dduw. A’r archsynagogydd a atebodd yn ddicllon, am i’r Iesu iacháu ar y Saboth, ac a ddywedodd wrth y bobl, Chwe diwrnod sydd, yn y rhai y dylid gweithio: ar y rhai hyn gan hynny deuwch, a iachaer chwi: ac nid ar y dydd Saboth. Am hynny yr Arglwydd a’i hatebodd ef, ac a ddywedodd, O ragrithiwr, oni ollwng pob un ohonoch ar y Saboth ei ych neu ei asyn o’r preseb, a’i arwain i’r dwfr? Ac oni ddylai hon, a hi yn ferch i Abraham, yr hon a rwymodd Satan, wele, ddeunaw mlynedd, gael ei rhyddhau o’r rhwym hwn ar y dydd Saboth? Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn, ei holl wrthwynebwyr ef a gywilyddiasant: a’r holl bobl a lawenychasant am yr holl bethau gogoneddus a wneid ganddo.