Luc 11:24-28
Luc 11:24-28 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Pan mae ysbryd drwg yn dod allan o rywun, mae’n mynd i grwydro lleoedd anial yn edrych am le i orffwys. Ond yna pan mae’n methu dod o hyd i rywle, mae’n meddwl, ‘Dw i am fynd yn ôl i lle roeddwn i’n byw.’ Mae’n cyrraedd ac yn darganfod y tŷ wedi’i lanhau a’i dacluso drwyddo. Wedyn mae’n mynd â saith ysbryd gwaeth na’i hun i fyw gydag e! Mae’r person mewn gwaeth cyflwr ar y diwedd nag oedd ar y dechrau!” Pan oedd Iesu wrthi’n dweud y pethau yma, dyma ryw wraig yn y dyrfa yn gweiddi, “Mae dy fam, wnaeth dy gario di’n ei chroth a’th fagu ar ei bronnau, wedi’i bendithio’n fawr!” Atebodd Iesu, “Mae’r rhai sy’n gwrando ar neges Duw ac yn ufuddhau iddo wedi’u bendithio’n fwy!”
Luc 11:24-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Pan fydd ysbryd aflan yn mynd allan o rywun, bydd yn rhodio trwy fannau sychion gan geisio gorffwysfa, ond heb ei gael. Yna y mae'n dweud, ‘Mi ddychwelaf i'm cartref, y lle y deuthum ohono.’ Wedi cyrraedd, y mae'n ei gael wedi ei ysgubo a'i osod mewn trefn. Yna y mae'n mynd ac yn cymryd ato saith ysbryd arall mwy drygionus nag ef ei hun; y maent yn mynd i mewn ac yn ymgartrefu yno; ac y mae cyflwr olaf y dyn hwnnw yn waeth na'r cyntaf.” Wrth iddo ddweud hyn, cododd gwraig o'r dyrfa ei llais ac meddai wrtho, “Gwyn eu byd y groth a'th gariodd di a'r bronnau a sugnaist.” “Nage,” meddai ef, “gwyn eu byd y rhai sy'n clywed gair Duw ac yn ei gadw.”
Luc 11:24-28 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pan êl yr ysbryd aflan allan o ddyn, efe a rodia mewn lleoedd sychion, gan geisio gorffwystra: a phryd na chaffo, efe a ddywed, Mi a ddychwelaf i’m tŷ o’r lle y deuthum allan. A phan ddêl, y mae yn ei gael wedi ei ysgubo a’i drefnu. Yna yr â efe, ac y cymer ato saith ysbryd eraill gwaeth nag ef ei hun; a hwy a ânt i mewn, ac a arhosant yno: a diwedd y dyn hwnnw fydd gwaeth na’i ddechreuad. A bu, fel yr oedd efe yn dywedyd hyn, rhyw wraig o’r dyrfa a gododd ei llef, ac a ddywedodd wrtho, Gwyn fyd y groth a’th ddug di, a’r bronnau a sugnaist. Ond efe a ddywedodd, Yn hytrach gwyn fyd y rhai sydd yn gwrando gair Duw, ac yn ei gadw.