Luc 10:5-11
Luc 10:5-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Pan ewch i mewn i gartref rhywun, gofynnwch i Dduw fendithio’r cartref hwnnw cyn gwneud unrhyw beth arall. Os oes rhywun yna sy’n agored i dderbyn y fendith, bydd yn cael ei fendithio; ond os oes neb, bydd y fendith yn dod yn ôl arnoch chi. Peidiwch symud o gwmpas o un tŷ i’r llall; arhoswch yn yr un lle, gan fwyta ac yfed beth bynnag sy’n cael ei roi o’ch blaen chi. Mae gweithiwr yn haeddu ei gyflog. “Os byddwch yn cael croeso mewn rhyw dref, bwytwch beth bynnag sy’n cael ei roi o’ch blaen chi. Ewch ati i iacháu y rhai sy’n glaf yno, a dweud wrthyn nhw, ‘Mae Duw ar fin dod i deyrnasu.’ Ond os ewch i mewn i ryw dref heb gael dim croeso yno, ewch allan i’w strydoedd a dweud, ‘Dŷn ni’n sychu llwch eich tref chi i ffwrdd oddi ar ein traed ni, fel arwydd yn eich erbyn chi! Ond gallwch fod yn reit siŵr o hyn – bod Duw ar fin dod i deyrnasu!’
Luc 10:5-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pa dŷ bynnag yr ewch i mewn iddo, dywedwch yn gyntaf, ‘Tangnefedd i'r teulu hwn.’ Os bydd yno rywun tangnefeddus, bydd eich tangnefedd yn gorffwys arno ef; onid e, bydd yn dychwelyd atoch chwi. Arhoswch yn y tŷ hwnnw, a bwyta ac yfed yr hyn a gewch ganddynt, oherwydd y mae'r gweithiwr yn haeddu ei gyflog. Peidiwch â symud o dŷ i dŷ. Ac i ba dref bynnag yr ewch, a chael derbyniad, bwytewch yr hyn a osodir o'ch blaen. Iachewch y cleifion yno, a dywedwch wrthynt, ‘Y mae teyrnas Dduw wedi dod yn agos atoch.’ Pa dref bynnag yr ewch iddi a chael eich gwrthod, ewch allan i'w strydoedd a dywedwch, ‘Yn eich erbyn chwi, yr ydym yn sychu ymaith hyd yn oed y llwch o'ch tref a lynodd wrth ein traed. Eto gwybyddwch hyn: y mae teyrnas Dduw wedi dod yn agos.’
Luc 10:5-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac i ba dŷ bynnag yr eloch i mewn, yn gyntaf dywedwch, Tangnefedd i’r tŷ hwn. Ac o bydd yno fab tangnefedd, eich tangnefedd a orffwys arno: os amgen, hi a ddychwel atoch chwi. Ac yn y tŷ hwnnw arhoswch, gan fwyta ac yfed y cyfryw bethau ag a gaffoch ganddynt: canys teilwng yw i’r gweithiwr ei gyflog. Na threiglwch o dŷ i dŷ. A pha ddinas bynnag yr eloch iddi, a hwy yn eich derbyn, bwytewch y cyfryw bethau ag a rodder ger eich bronnau: Ac iachewch y cleifion a fyddo ynddi, a dywedwch wrthynt, Daeth teyrnas Dduw yn agos atoch. Eithr pa ddinas bynnag yr eloch iddi, a hwy heb eich derbyn, ewch allan i’w heolydd, a dywedwch, Hyd yn oed y llwch, yr hwn a lynodd wrthym o’ch dinas, yr ydym yn ei sychu ymaith i chwi: er hynny gwybyddwch hyn, fod teyrnas Dduw wedi nesáu atoch.