Luc 10:36-37
Luc 10:36-37 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Felly” meddai Iesu, “yn dy farn di, pa un o’r tri fu’n gymydog i’r dyn wnaeth y lladron ymosod arno?” Dyma’r arbenigwr yn y Gyfraith yn ateb, “Yr un wnaeth ei helpu.” A dwedodd Iesu, “Dos dithau a gwna’r un fath.”
Rhanna
Darllen Luc 10Luc 10:36-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
P'run o'r tri hyn, dybi di, fu'n gymydog i'r dyn a syrthiodd i blith lladron?” Meddai ef, “Yr un a gymerodd drugaredd arno.” Ac meddai Iesu wrtho, “Dos, a gwna dithau yr un modd.”
Rhanna
Darllen Luc 10Luc 10:36-37 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pwy gan hynny o’r tri hyn, yr ydwyt ti yn tybied ei fod yn gymydog i’r hwn a syrthiasai ymhlith y lladron? Ac efe a ddywedodd, Yr hwn a wnaeth drugaredd ag ef. A’r Iesu am hynny a ddywedodd wrtho, Dos, a gwna dithau yr un modd.
Rhanna
Darllen Luc 10