Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 10:1-24

Luc 10:1-24 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Ar ôl hyn dyma Iesu’n penodi saith deg dau o rai eraill a’u hanfon o’i flaen bob yn ddau i’r lleoedd roedd ar fin mynd iddyn nhw. Meddai wrthyn nhw, “Mae’r cynhaeaf mor fawr, a’r gweithwyr mor brin! Felly, gofynnwch i Arglwydd y cynhaeaf anfon mwy o weithwyr i’w feysydd. Ewch! Dw i’n eich anfon chi allan fel ŵyn i ganol pac o fleiddiaid. Peidiwch mynd â phwrs na bag teithio na sandalau gyda chi; a pheidiwch stopio i gyfarch neb ar y ffordd. “Pan ewch i mewn i gartref rhywun, gofynnwch i Dduw fendithio’r cartref hwnnw cyn gwneud unrhyw beth arall. Os oes rhywun yna sy’n agored i dderbyn y fendith, bydd yn cael ei fendithio; ond os oes neb, bydd y fendith yn dod yn ôl arnoch chi. Peidiwch symud o gwmpas o un tŷ i’r llall; arhoswch yn yr un lle, gan fwyta ac yfed beth bynnag sy’n cael ei roi o’ch blaen chi. Mae gweithiwr yn haeddu ei gyflog. “Os byddwch yn cael croeso mewn rhyw dref, bwytwch beth bynnag sy’n cael ei roi o’ch blaen chi. Ewch ati i iacháu y rhai sy’n glaf yno, a dweud wrthyn nhw, ‘Mae Duw ar fin dod i deyrnasu.’ Ond os ewch i mewn i ryw dref heb gael dim croeso yno, ewch allan i’w strydoedd a dweud, ‘Dŷn ni’n sychu llwch eich tref chi i ffwrdd oddi ar ein traed ni, fel arwydd yn eich erbyn chi! Ond gallwch fod yn reit siŵr o hyn – bod Duw ar fin dod i deyrnasu!’ Wir i chi, bydd hi’n well ar Sodom ar ddydd y farn nag ar y dref honno! “Gwae ti, Chorasin! Gwae ti, Bethsaida! Petai’r gwyrthiau wnes i ynoch chi wedi digwydd yn Tyrus a Sidon, byddai’r bobl yno wedi hen ddangos eu bod yn edifar, drwy eistedd ar lawr yn gwisgo sachliain a thaflu lludw ar eu pennau. Bydd hi’n well ar Tyrus a Sidon ar ddydd y farn nag arnoch chi! A beth amdanat ti, Capernaum? Wyt ti’n meddwl y byddi di’n cael dy anrhydeddu? Na, byddi di’n cael dy fwrw i lawr i’r dyfnder tywyll! “Mae pwy bynnag sy’n gwrando ar eich neges chi yn fy nerbyn i, a phwy bynnag sy’n eich gwrthod chi yn fy ngwrthod i hefyd. Ac mae pwy bynnag sy’n fy ngwrthod i yn gwrthod Duw, yr un sydd wedi fy anfon i.” Pan ddaeth y saith deg dau yn ôl, dyma nhw’n dweud yn frwd, “Arglwydd, mae hyd yn oed y cythreuliaid yn ufuddhau i ni wrth i ni dy enwi di.” Atebodd Iesu, “Gwelais Satan yn syrthio fel mellten o’r awyr! Dw i wedi rhoi’r awdurdod i chi dros holl nerth y gelyn! Gallwch sathru ar nadroedd a sgorpionau a fydd dim byd yn gwneud niwed i chi! Ond peidiwch bod yn llawen am fod ysbrydion drwg yn ufuddhau i chi; y rheswm dros fod yn llawen ydy bod eich enwau wedi’u hysgrifennu yn y nefoedd.” Bryd hynny roedd Iesu’n fwrlwm o lawenydd yr Ysbryd Glân, ac meddai, “Fy Nhad. Arglwydd y nefoedd a’r ddaear. Diolch i ti am guddio’r pethau yma oddi wrth y bobl sy’n meddwl eu bod nhw mor ddoeth a chlyfar, a’u dangos i’r rhai sy’n agored fel plant bach. Ie, fy Nhad, dyna sy’n dy blesio di. “Mae fy Nhad wedi rhoi popeth yn fy ngofal i. Does neb yn nabod y Mab go iawn ond y Tad, a does neb yn nabod y Tad go iawn ond y Mab, a’r rhai hynny mae’r Mab wedi dewis ei ddangos iddyn nhw.” Pan oedden nhw ar eu pennau’u hunain trodd at ei ddisgyblion a dweud, “Dych chi’n cael y fath fraint o weld beth sy’n digwydd! Dw i’n dweud wrthoch chi fod llawer o broffwydi a brenhinoedd wedi bod yn ysu am gael gweld beth dych chi’n ei weld a chlywed beth dych chi’n ei glywed, ond chawson nhw ddim.”

Luc 10:1-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Wedi hynny penododd yr Arglwydd ddeuddeg a thrigain arall, a'u hanfon allan o'i flaen, bob yn ddau, i bob tref a man yr oedd ef ei hun am fynd iddynt. Dywedodd wrthynt, “Y mae'r cynhaeaf yn fawr ond y gweithwyr yn brin; deisyfwch felly ar arglwydd y cynhaeaf i anfon gweithwyr i'w gynhaeaf. Ewch; dyma fi'n eich anfon allan fel ŵyn i blith bleiddiaid. Peidiwch â chario na phwrs na chod na sandalau, a pheidiwch â chyfarch neb ar y ffordd. Pa dŷ bynnag yr ewch i mewn iddo, dywedwch yn gyntaf, ‘Tangnefedd i'r teulu hwn.’ Os bydd yno rywun tangnefeddus, bydd eich tangnefedd yn gorffwys arno ef; onid e, bydd yn dychwelyd atoch chwi. Arhoswch yn y tŷ hwnnw, a bwyta ac yfed yr hyn a gewch ganddynt, oherwydd y mae'r gweithiwr yn haeddu ei gyflog. Peidiwch â symud o dŷ i dŷ. Ac i ba dref bynnag yr ewch, a chael derbyniad, bwytewch yr hyn a osodir o'ch blaen. Iachewch y cleifion yno, a dywedwch wrthynt, ‘Y mae teyrnas Dduw wedi dod yn agos atoch.’ Pa dref bynnag yr ewch iddi a chael eich gwrthod, ewch allan i'w strydoedd a dywedwch, ‘Yn eich erbyn chwi, yr ydym yn sychu ymaith hyd yn oed y llwch o'ch tref a lynodd wrth ein traed. Eto gwybyddwch hyn: y mae teyrnas Dduw wedi dod yn agos.’ Rwy'n dweud wrthych y caiff Sodom ar y Dydd hwnnw lai i'w ddioddef na'r dref honno. “Gwae di, Chorasin! Gwae di, Bethsaida! Oherwydd petai'r gwyrthiau a wnaethpwyd ynoch chwi wedi eu gwneud yn Tyrus a Sidon, buasent wedi edifarhau erstalwm, gan eistedd mewn sachliain a lludw. Eto, caiff Tyrus a Sidon lai i'w ddioddef yn y Farn na chwi. A thithau, Capernaum, “ ‘A ddyrchefir di hyd nef? Byddi'n disgyn hyd Hades.’ “Y mae'r sawl sy'n gwrando arnoch chwi yn gwrando arnaf fi, a'r sawl sy'n eich anwybyddu chwi yn f'anwybyddu i; ac y mae'r sawl sy'n f'anwybyddu i yn anwybyddu'r hwn a'm hanfonodd i.” Dychwelodd y deuddeg a thrigain yn llawen, gan ddweud, “Arglwydd, y mae hyd yn oed y cythreuliaid yn ymddarostwng inni yn dy enw di.” Meddai wrthynt, “Yr oeddwn yn gweld Satan fel mellten yn syrthio o'r nef. Dyma fi wedi rhoi i chwi yr awdurdod i sathru ar seirff ac ysgorpionau, ac i drechu holl nerth y gelyn; ac ni'ch niweidir chwi gan ddim. Eto, peidiwch â llawenhau yn hyn, fod yr ysbrydion yn ymddarostwng i chwi; llawenhewch oherwydd fod eich enwau wedi eu hysgrifennu yn y nefoedd.” Yr awr honno gorfoleddodd yn yr Ysbryd Glân, ac meddai, “Yr wyf yn dy foliannu di, O Dad, Arglwydd nef a daear, am iti guddio'r pethau hyn rhag y doethion a'r deallusion, a'u datguddio i rai bychain; ie, O Dad, oherwydd felly y rhyngodd dy fodd di. Traddodwyd i mi bob peth gan fy Nhad. Ni ŵyr neb pwy yw'r Mab ond y Tad, na phwy yw'r Tad ond y Mab a'r rhai hynny y mae'r Mab yn dewis ei ddatguddio iddynt.” Yna troes at ei ddisgyblion ac meddai wrthynt o'r neilltu, “Gwyn eu byd y llygaid sy'n gweld y pethau yr ydych chwi yn eu gweld. Oherwydd rwy'n dweud wrthych fod llawer o broffwydi a brenhinoedd wedi dymuno gweld y pethau yr ydych chwi yn eu gweld, ac nis gwelsant, a chlywed y pethau yr ydych chwi yn eu clywed, ac nis clywsant.”

Luc 10:1-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Wedi’r pethau hyn yr ordeiniodd yr Arglwydd ddeg a thrigain eraill hefyd, ac a’u danfonodd hwynt bob yn ddau o flaen ei wyneb i bob dinas a man lle yr oedd efe ar fedr dyfod. Am hynny efe a ddywedodd wrthynt, Y cynhaeaf yn wir sydd fawr, ond y gweithwyr yn anaml: gweddïwch gan hynny ar Arglwydd y cynhaeaf, am ddanfon allan weithwyr i’w gynhaeaf. Ewch: wele, yr wyf fi yn eich danfon chwi fel ŵyn ymysg bleiddiaid. Na ddygwch god, nac ysgrepan, nac esgidiau; ac na chyferchwch well i neb ar y ffordd. Ac i ba dŷ bynnag yr eloch i mewn, yn gyntaf dywedwch, Tangnefedd i’r tŷ hwn. Ac o bydd yno fab tangnefedd, eich tangnefedd a orffwys arno: os amgen, hi a ddychwel atoch chwi. Ac yn y tŷ hwnnw arhoswch, gan fwyta ac yfed y cyfryw bethau ag a gaffoch ganddynt: canys teilwng yw i’r gweithiwr ei gyflog. Na threiglwch o dŷ i dŷ. A pha ddinas bynnag yr eloch iddi, a hwy yn eich derbyn, bwytewch y cyfryw bethau ag a rodder ger eich bronnau: Ac iachewch y cleifion a fyddo ynddi, a dywedwch wrthynt, Daeth teyrnas Dduw yn agos atoch. Eithr pa ddinas bynnag yr eloch iddi, a hwy heb eich derbyn, ewch allan i’w heolydd, a dywedwch, Hyd yn oed y llwch, yr hwn a lynodd wrthym o’ch dinas, yr ydym yn ei sychu ymaith i chwi: er hynny gwybyddwch hyn, fod teyrnas Dduw wedi nesáu atoch. Eithr dywedaf wrthych, mai esmwythach fydd i Sodom yn y dydd hwnnw, nag i’r ddinas honno. Gwae di, Chorasin! gwae di, Bethsaida! canys pe gwnelsid yn Nhyrus a Sidon y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd yn eich plith chwi, hwy a edifarhasent er ys talm, gan eistedd mewn sachliain a lludw. Eithr esmwythach fydd i Dyrus a Sidon yn y farn, nag i chwi. A thithau, Capernaum, yr hon a ddyrchafwyd hyd y nef, a dynnir i lawr hyd yn uffern. Y neb sydd yn eich gwrando chwi, sydd yn fy ngwrando i; a’r neb sydd yn eich dirmygu chwi, sydd yn fy nirmygu i; a’r neb sydd yn fy nirmygu i, sydd yn dirmygu’r hwn a’m hanfonodd i. A’r deg a thrigain a ddychwelasant gyda llawenydd, gan ddywedyd, Arglwydd, hyd yn oed y cythreuliaid a ddarostyngir i ni, yn dy enw di. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Mi a welais Satan megis mellten, yn syrthio o’r nef. Wele, yr ydwyf fi yn rhoddi i chwi awdurdod i sathru ar seirff ac ysgorpionau, ac ar holl gryfder y gelyn: ac nid oes dim a wna ddim niwed i chwi. Eithr yn hyn na lawenhewch, fod yr ysbrydion wedi eu darostwng i chwi; ond llawenhewch yn hytrach, am fod eich enwau yn ysgrifenedig yn y nefoedd. Yr awr honno yr Iesu a lawenychodd yn yr ysbryd, ac a ddywedodd, Yr wyf yn diolch i ti, O Dad, Arglwydd nef a daear, am guddio ohonot y pethau hyn oddi wrth y doethion a’r deallus, a’u datguddio ohonot i rai bychain: yn wir, O Dad; oblegid felly y gwelid yn dda yn dy olwg di. Pob peth a roddwyd i mi gan fy Nhad: ac ni ŵyr neb pwy yw’r Mab, ond y Tad; na phwy yw’r Tad, ond y Mab, a’r neb y mynno’r Mab ei ddatguddio iddo. Ac efe a drodd at ei ddisgyblion, ac a ddywedodd o’r neilltu, Gwyn fyd y llygaid sydd yn gweled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled: Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, ewyllysio o lawer o broffwydi a brenhinoedd weled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled, ac nis gwelsant; a chlywed y pethau yr ydych chwi yn eu clywed, ac nis clywsant.