Lefiticus 9:1-7
Lefiticus 9:1-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Wythnos wedyn, pan oedd y seremoni ordeinio drosodd, dyma Moses yn galw Aaron a’i feibion ac arweinwyr Israel at ei gilydd. A dyma fe’n dweud wrth Aaron, “Cymer fustach ifanc a hwrdd sydd â dim byd o’i le arnyn nhw. Offryma’r bustach i’r ARGLWYDD fel offrwm i lanhau o bechod, a’r hwrdd fel offrwm i’w losgi.” Yna dywed wrth bobl Israel, “Cymerwch fwch gafr yn offrwm i lanhau o bechod, llo blwydd oed ac oen heb ddim byd o’i le arnyn nhw yn offrwm i’w losgi, a bustach a hwrdd yn offrwm i gydnabod daioni’r ARGLWYDD. Mae’r rhain i gael eu haberthu gydag offrwm o rawn wedi’i gymysgu gydag olew olewydd. Gwnewch hyn am fod yr ARGLWYDD yn mynd i ddod i’r golwg heddiw.” Felly dyma nhw’n dod â’r cwbl oedd Moses wedi’i ddweud o flaen y Tabernacl. A dyma’r bobl i gyd yn sefyll yno o flaen yr ARGLWYDD. A dyma Moses yn dweud, “Yr ARGLWYDD sydd wedi dweud wrthoch chi am wneud hyn, i chi gael gweld ei ysblander e.” Wedyn dyma Moses yn dweud wrth Aaron, “Dos at yr allor a mynd drwy’r ddefod o gyflwyno’r offrwm i lanhau o bechod a’r offrwm i’w losgi. Cyflwyna nhw i wneud pethau’n iawn rhyngot ti a Duw a rhwng dy bobl a Duw. Gwna yn union beth mae’r ARGLWYDD wedi dweud.”
Lefiticus 9:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ar yr wythfed dydd galwodd Moses am Aaron a'i feibion a henuriaid Israel. A dywedodd wrth Aaron, “Cymer fustach ifanc yn aberth dros bechod, a hwrdd yn boethoffrwm, y naill a'r llall yn ddi-nam, a chyflwyna hwy o flaen yr ARGLWYDD. Yna dywed wrth bobl Israel, ‘Cymerwch fwch gafr yn aberth dros bechod, a llo ac oen yn boethoffrwm, y naill a'r llall yn flwydd oed ac yn ddi-nam, a hefyd fustach a hwrdd yn heddoffrwm i'w haberthu o flaen yr ARGLWYDD, a bwydoffrwm wedi ei gymysgu ag olew; oherwydd heddiw bydd yr ARGLWYDD yn ymddangos i chwi.’ ” Dygasant y pethau a orchmynnodd Moses o flaen pabell y cyfarfod, a nesaodd yr holl gynulleidfa a sefyll gerbron yr ARGLWYDD. Yna dywedodd Moses, “Dyma'r hyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD ichwi ei wneud er mwyn i ogoniant yr ARGLWYDD ymddangos ichwi.” Dywedodd Moses wrth Aaron, “Nesâ at yr allor ac offryma dy aberth dros bechod a'th boethoffrwm, a gwna gymod drosot dy hun a thros y bobl; abertha offrwm y bobl a gwna gymod drostynt, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD.”
Lefiticus 9:1-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y bu, ar yr wythfed dydd, i Moses alw Aaron a’i feibion, a henuriaid Israel; Ac efe a ddywedodd wrth Aaron, Cymer i ti lo ieuanc yn aberth dros bechod, a hwrdd yn boethoffrwm, o rai perffaith-gwbl, a dwg hwy gerbron yr ARGLWYDD. Llefarodd hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Cymerwch fyn gafr, yn aberth dros bechod; a llo, ac oen, blwyddiaid, perffaith-gwbl, yn boethoffrwm; Ac eidion, a hwrdd, yn aberth hedd, i aberthu gerbron yr ARGLWYDD; a bwyd-offrwm wedi ei gymysgu trwy olew: oherwydd heddiw yr ymddengys yr ARGLWYDD i chwi. A dygasant yr hyn a orchmynnodd Moses gerbron pabell y cyfarfod: a’r holl gynulleidfa a ddaethant yn agos, ac a safasant gerbron yr ARGLWYDD. A dywedodd Moses, Dyma’r peth a orchmynnodd yr ARGLWYDD i chwi ei wneuthur; ac ymddengys gogoniant yr ARGLWYDD i chwi. Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron, Dos at yr allor, ac abertha dy aberth dros bechod a’th boethoffrwm, a gwna gymod drosot dy hun, a thros y bobl; ac abertha offrwm y bobl, a gwna gymod drostynt; fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD.