Lefiticus 6:8-13
Lefiticus 6:8-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dwed wrth Aaron a’i ddisgynyddion mai dyma’r drefn gyda’r offrwm sydd i’w losgi: Mae’r offrwm i aros ar yr allor drwy’r nos tan y bore wedyn. Rhaid cadw’r tân ar yr allor yn llosgi. Mae’r offeiriad i wisgo ei wisg o liain, a’i ddillad isaf lliain. Wedyn mae i gasglu’r lludw sydd ar ôl wedi i’r offrwm gael ei losgi, a’i osod yn domen wrth ymyl yr allor. Wedyn rhaid iddo newid ei ddillad cyn mynd â’r lludw allan i le tu allan i’r gwersyll sydd wedi cael ei gysegru i’r pwrpas hwnnw. Rhaid cadw’r tân ar yr allor yn llosgi. Dydy e byth i fod i ddiffodd. Rhaid i offeiriad roi coed arno bob bore. Wedyn mae’n gosod yr offrwm sydd i’w losgi’n llwyr arno, ac yn llosgi braster yr offrymau i gydnabod daioni’r ARGLWYDD. Rhaid cadw’r tân ar yr allor yn llosgi drwy’r amser. Dydy e byth i fod i ddiffodd.
Lefiticus 6:8-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Gorchymyn i Aaron a'i feibion a dweud, ‘Dyma ddeddf y poethoffrwm: Y mae'r poethoffrwm i'w adael ar aelwyd yr allor trwy'r nos hyd y bore, a'r tân i'w gadw i losgi ar yr allor. Yna bydd yr offeiriad yn gwisgo'i wisgoedd lliain, a dillad isaf o liain agosaf at ei gorff, a bydd yn codi lludw'r poethoffrwm, a yswyd gan dân ar yr allor, ac yn ei roi wrth ymyl yr allor. Bydd yr offeiriad wedyn yn tynnu ei ddillad ac yn gwisgo dillad eraill, ac yn mynd â'r lludw y tu allan i'r gwersyll i le dihalog. Rhaid cadw'r tân i losgi ar yr allor; nid yw i ddiffodd. Y mae'r offeiriad i roi coed arni bob bore, gosod y poethoffrwm arni a llosgi braster yr heddoffrwm. Rhaid cadw'r tân i losgi'n barhaol ar yr allor; nid yw i ddiffodd.
Lefiticus 6:8-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Llefarodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses, gan ddywedyd, Gorchymyn i Aaron, ac i’w feibion, gan ddywedyd, Dyma gyfraith y poethoffrwm: (poethoffrwm yw, oherwydd y llosgi ar yr allor ar hyd y nos hyd y bore, a thân yr allor a gyneuir arni.) Gwisged yr offeiriad hefyd ei lieinwisg amdano, a gwisged lodrau lliain am ei gnawd, a choded y lludw lle yr ysodd y tân y poethaberth ar yr allor, a gosoded ef gerllaw yr allor. A diosged ei wisgoedd, a gwisged ddillad eraill, a dyged allan y lludw i’r tu allan i’r gwersyll, i le glân. A chyneuer y tân sydd ar yr allor arni; na ddiffodded: ond llosged yr offeiriad goed arni bob bore; a threfned y poethoffrwm arni, a llosged wêr yr aberth hedd arni. Cyneuer y tân bob amser ar yr allor; na ddiffodded.