Lefiticus 4:22-31 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Lefiticus 4:22-31 BNET (beibl.net 2015, 2024)
“Pan mae un o arweinwyr pobl Israel yn pechu yn fy erbyn i heb sylweddoli ei fod wedi gwneud hynny, mae e’n euog. Unwaith mae e’n sylweddoli beth mae wedi’i wneud, mae i fynd â bwch gafr heb ddim byd o’i le arno i’w aberthu. Rhaid iddo osod ei law ar ben y bwch gafr ac wedyn ei ladd o flaen yr ARGLWYDD (yn yr un lle ag mae’r offrwm i’w losgi yn cael ei ladd). Mae’n offrwm i’w lanhau o’i bechod. Wedyn mae offeiriad i gymryd peth o waed yr anifail a’i roi gyda’i fys ar gyrn yr allor i losgi offrymau. Ac wedyn bydd yn tywallt gweddill y gwaed wrth droed yr allor. Bydd yn llosgi’r braster i gyd ar yr allor, fel roedd yn gwneud gyda braster yr offrwm i gydnabod daioni’r ARGLWYDD. Felly bydd yr offeiriad yn gwneud pethau’n iawn rhyngddo a Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am ei bechod. “Os ydy person cyffredin yn pechu yn fy erbyn i heb sylweddoli ei fod wedi gwneud hynny, mae e’n euog. Unwaith mae e’n sylweddoli beth mae e wedi’i wneud, mae i fynd â gafr sydd â dim byd o’i le arni i’w haberthu dros ei bechod. Wedyn rhaid iddo osod ei law ar ben yr afr sydd i’w haberthu, ac wedyn ei lladd (yn yr un lle ag mae’r offrwm sydd i’w losgi yn cael ei ladd). Wedyn mae offeiriad i gymryd peth o waed yr anifail a’i roi gyda’i fys ar gyrn yr allor i losgi offrymau. Ac wedyn bydd yn tywallt gweddill y gwaed wrth droed yr allor. Bydd y person sy’n cyflwyno’r offrwm yn cymryd braster yr anifail (fel mae’n gwneud gyda’r offrwm i gydnabod daioni’r ARGLWYDD). Wedyn bydd yr offeiriad yn llosgi’r braster ar yr allor – yn rhodd sy’n arogli’n hyfryd i’r ARGLWYDD. Felly bydd yr offeiriad yn gwneud pethau’n iawn rhyngddo a Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am ei bechod.
Lefiticus 4:22-31 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
“ ‘Os arweinydd fydd yn pechu'n anfwriadol, ac yn gwneud un o'r pethau na ddylid eu gwneud yn ôl gorchmynion yr ARGLWYDD ei Dduw, yna bydd yn euog. Pan wneir iddo sylweddoli'r pechod a wnaeth, dylai ddod â rhodd o fwch gafr ifanc di-nam. Y mae i osod ei law ar ben y bwch a'i ladd o flaen yr ARGLWYDD yn y lle y lleddir y poethoffrwm; dyma fydd yr aberth dros bechod. Yna bydd yr offeiriad yn cymryd peth o waed yr aberth dros bechod ar ei fys ac yn ei roi ar gyrn allor y poethoffrwm, ac yn tywallt y gweddill wrth droed allor y poethoffrwm. Bydd yn llosgi holl fraster y bwch ar yr allor, fel y llosgodd fraster yr heddoffrwm. Fel hyn y bydd yr offeiriad yn gwneud cymod dros bechod yr arweinydd, ac fe faddeuir iddo. “ ‘Os un o'r bobl gyffredin fydd yn pechu'n anfwriadol, ac yn gwneud un o'r pethau na ddylid eu gwneud yn ôl gorchmynion yr ARGLWYDD, yna bydd yn euog. Pan wneir iddo sylweddoli'r pechod a wnaeth, dylai ddod â rhodd o fyn gafr, benyw ddi-nam, yn aberth dros y pechod a wnaeth. Y mae i osod ei law ar ben yr aberth dros bechod a'i ladd yn yr un lle â'r poethoffrwm. Yna bydd yr offeiriad yn cymryd peth o waed yr aberth dros bechod ar ei fys ac yn ei roi ar gyrn allor y poethoffrwm, ac yn tywallt y gweddill wrth droed yr allor. Bydd yn tynnu ymaith yr holl fraster, fel y tynnir y braster oddi ar yr heddoffrwm, a bydd yr offeiriad yn ei losgi ar yr allor, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD. Fel hyn y bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto, ac fe faddeuir iddo.
Lefiticus 4:22-31 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os pecha pennaeth, a gwneuthur mewn anwybod yn erbyn yr un o orchmynion yr ARGLWYDD ei DDUW, ddim o’r hyn ni ddylid eu gwneuthur, a bod yn euog; Neu os daw i wybod ei fai yr hwn a wnaeth: dyged ei offrwm o lwdn gafr gwryw perffaith-gwbl. A gosoded ei law ar ben y llwdn, a lladded ef yn y lle y lleddir y poethoffrwm, gerbron yr ARGLWYDD. Dyma aberth dros bechod. A chymered yr offeiriad o waed yr aberth dros bechod â’i fys, a gosoded ar gyrn allor y poethoffrwm, a thywallted ei waed ef wrth waelod allor y poethoffrwm. A llosged ei holl wêr ar yr allor, fel gwêr yr aberth hedd: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto am ei bechod; a maddeuir iddo. Ac os pecha neb o bobl y wlad mewn anwybod, gan wneuthur yn erbyn yr un o orchmynion yr ARGLWYDD, ddim o’r pethau ni ddylid eu gwneuthur, a bod yn euog; Neu os ei bechod yr hwn a bechodd a ddaw i’w wybodaeth ef: yna dyged ei offrwm o lwdn gafr fenyw berffaith-gwbl dros ei bechod a bechodd efe. A gosoded ei law ar ben yr aberth dros bechod, a lladded yr aberth dros bechod yn y lle y lleddir y poethoffrwm. A chymered yr offeiriad o’i gwaed hi â’i fys, a rhodded ar gyrn allor y poethoffrwm, a thywallted ei holl waed hi wrth waelod yr allor. A thynned ei holl wêr hi, fel y tynnir y gwêr oddi ar yr aberth hedd; a llosged yr offeiriad ef ar yr allor, yn arogl peraidd i’r ARGLWYDD: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto; a maddeuir iddo.