Lefiticus 26:14-21
Lefiticus 26:14-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Ond os byddwch chi’n anufudd ac yn gwrthod gwneud beth dw i’n ei ddweud, byddwch chi’n cael eich cosbi. Os byddwch chi’n gwrthod cadw fy rheolau i ac yn torri’r ymrwymiad wnes i gyda chi, dyma fydda i’n ei wneud: Bydda i’n dod â thrychineb sydyn arnoch chi – afiechydon na ellir mo’u gwella, gwres uchel, colli’ch golwg a cholli archwaeth at fwyd. Byddwch yn hau eich had i ddim byd achos bydd eich gelynion yn bwyta’r cnwd. Bydda i’n troi yn eich erbyn chi. Bydd eich gelynion yn eich sathru chi dan draed. Bydd y rhai sy’n eich casáu chi yn eich rheoli chi. Byddwch chi’n dianc i ffwrdd er bod neb yn eich erlid chi. Ac os byddwch chi’n dal ddim yn gwrando arna i, bydda i’n eich cosbi chi yn llawer iawn gwaeth. Bydda i’n delio gyda’ch balchder ystyfnig chi. Bydd yr awyr yn galed fel haearn, a’r ddaear fel pres, am fod dim glaw. Byddwch chi’n gweithio’n galed i ddim byd. Fydd dim cnydau’n tyfu ar y tir, a dim ffrwyth yn tyfu ar y coed. “Os dych chi’n mynnu tynnu’n groes a gwrthod gwrando, bydda i’n eich cosbi chi’n waeth fyth.
Lefiticus 26:14-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“ ‘Ond os na fyddwch yn gwrando arnaf nac yn gwneud yr holl orchmynion hyn, ac os byddwch yn gwrthod fy neddfau ac yn ffieiddio fy marnedigaethau, heb gadw fy ngorchmynion, ond yn torri fy nghyfamod, yna fe wnaf hyn â chwi: byddaf yn dwyn dychryn arnoch, darfodedigaeth a thwymyn a fydd yn gwneud i'ch llygaid ballu ac i'ch enaid ddihoeni. Byddwch yn hau'n ofer, gan mai eich gelynion fydd yn ei fwyta. Trof fy wyneb i'ch erbyn, a chewch eich gorchfygu gan eich gelynion; bydd y rhai sy'n eich casáu yn rheoli drosoch, a byddwch yn ffoi heb neb yn eich ymlid. “ ‘Os na fyddwch ar ôl hyn i gyd yn gwrando arnaf, byddaf yn eich cosbi seithwaith am eich pechodau. Fe ddrylliaf eich balchder ystyfnig, a gwnaf y nefoedd uwch eich pen fel haearn a'r ddaear danoch fel pres. Byddwch yn treulio'ch nerth yn ofer, oherwydd ni fydd eich tir yn rhoi ei gnwd na choed y maes eu ffrwyth. “ ‘Os byddwch yn parhau i'm gwrthwynebu, ac yn gwrthod gwrando arnaf, byddaf yn ychwanegu drygau arnoch seithwaith am eich pechodau.
Lefiticus 26:14-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond os chwi ni wrandewch arnaf, ac ni wnewch yr holl orchmynion hyn; Os fy neddfau hefyd a ddirmygwch, ac os eich enaid a ffieiddia fy marnedigaethau, heb wneuthur fy holl orchmynion, ond torri fy nghyfamod; Minnau hefyd a wnaf hyn i chwi: gosodaf yn oruchaf arnoch ddychryn, darfodedigaeth, a’r cryd poeth, y rhai a wna i’r llygaid ballu, ac a ofidiant eich eneidiau: a heuwch eich had yn ofer; canys eich gelynion a’i bwyty: Ac a osodaf fy wyneb i’ch erbyn, a chwi a syrthiwch o flaen eich gelynion; a’ch caseion a feistrola arnoch; ffowch hefyd pan na byddo neb yn eich erlid. Ac os er hyn ni wrandewch arnaf, yna y chwanegaf eich cosbi chwi saith mwy am eich pechodau. A mi a dorraf falchder eich nerth chwi; a gwnaf eich nefoedd chwi fel haearn, a’ch tir chwi fel pres: A’ch cryfder a dreulir yn ofer: canys eich tir ni rydd ei gynnyrch, a choed y tir ni roddant eu ffrwyth. Ac os rhodiwch yng ngwrthwyneb i mi, ac ni fynnwch wrando arnaf fi; mi a chwanegaf bla saith mwy arnoch yn ôl eich pechodau.