Lefiticus 26:1-13 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Lefiticus 26:1-13 BNET (beibl.net 2015, 2024)
“Peidiwch gwneud eilun-dduwiau i chi’ch hunain. Peidiwch gwneud delw o rywbeth, neu godi colofn gysegredig, na gosod cerflun ar eich tir i blygu o’i flaen a’i addoli. Fi ydy’r ARGLWYDD eich Duw chi. Rhaid i chi gadw fy Sabothau a pharchu fy lle cysegredig i. Fi ydy’r ARGLWYDD. “Os byddwch chi’n ufudd a ffyddlon, ac yn gwneud beth dw i’n ddweud, bydda i’n anfon glaw ar yr amser iawn, er mwyn i gnydau dyfu ar y tir, a ffrwythau ar y coed. Byddwch yn cael cnydau gwych, a llwythi o rawnwin. Bydd gynnoch chi fwy na digon i’w fwyta, a chewch fyw yn saff yn y wlad. Bydda i’n rhoi heddwch a llonydd i chi. Byddwch yn gallu gorwedd i gysgu heb fod ofn. Bydda i’n cael gwared â’r anifeiliaid peryglus sy’n y wlad, a fydd neb yn ymosod ar y wlad. Byddwch chi’n concro’ch gelynion. Byddwch yn eu lladd nhw gyda’r cleddyf. Bydd pump ohonoch chi yn curo cant ohonyn nhw, a chant yn curo deg mil. Byddwch yn eu lladd nhw gyda’r cleddyf. Bydda i’n eich helpu chi. Byddwch chi’n cael lot fawr o ddisgynyddion. Bydda i’n cadw’r ymrwymiad wnes i i chi. Fydd gynnoch chi ddim digon o le i gadw eich cnydau i gyd. Bydd rhaid i chi daflu peth o gnwd y flwyddyn cynt i ffwrdd. Bydda i’n dod i fyw yn eich canol chi. Fydda i ddim yn eich ffieiddio chi. Bydda i’n byw yn eich plith chi. Fi fydd eich Duw chi, a chi fydd fy mhobl i. Fi ydy’r ARGLWYDD eich Duw chi. Fi wnaeth eich achub chi o’r Aifft, er mwyn i chi beidio bod yn gaethweision iddyn nhw. Dyma fi’n torri’r iau ar eich cefnau chi, i chi allu sefyll yn syth a cherdded yn rhydd.
Lefiticus 26:1-13 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
“ ‘Peidiwch â gwneud ichwi eilunod, na chodi ichwi eich hunain ddelw na cholofn; na fydded o fewn eich tir faen cerfiedig i blygu iddo; oherwydd myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw. Cadwch fy Sabothau a pharchwch fy nghysegr; myfi yw'r ARGLWYDD. “ ‘Os byddwch yn dilyn fy neddfau ac yn gofalu cadw fy ngorchmynion, rhoddaf ichwi'r glaw yn ei dymor, a rhydd y tir ei gnwd a choed y maes eu ffrwyth. Bydd dyrnu'n ymestyn hyd amser y cynhaeaf grawnwin, a'r cynhaeaf grawnwin hyd amser plannu, a byddwch yn bwyta i'ch digoni ac yn byw'n ddiogel yn eich gwlad. Rhoddaf heddwch yn y wlad, a chewch orwedd i lawr heb neb i'ch dychryn; symudaf y bwystfilod peryglus o'r wlad, ac ni ddaw'r cleddyf trwy eich tir. Byddwch yn ymlid eich gelynion, a byddant yn syrthio o'ch blaen trwy'r cleddyf. Bydd pump ohonoch yn ymlid cant a chant ohonoch yn ymlid deng mil, a bydd eich gelynion yn syrthio o'ch blaen trwy'r cleddyf. Byddaf yn edrych yn ffafriol arnoch, yn eich gwneud yn ffrwythlon ac yn eich cynyddu, a byddaf yn cadw fy nghyfamod â chwi. Byddwch yn dal i fwyta'r hen gnwd, ac yn gorfod bwrw allan yr hen i wneud lle i'r newydd. Byddaf yn gosod fy nhabernacl yn eich mysg, ac ni fyddaf yn eich ffieiddio. Byddaf yn rhodio yn eich mysg; byddaf yn Dduw i chwi a chwithau'n bobl i minnau. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw, a ddaeth â chwi allan o wlad yr Aifft rhag ichwi fod yn weision yno; torrais farrau eich iau a gwneud ichwi gerdded yn sythion.
Lefiticus 26:1-13 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Na wnewch eilunod i chwi, ac na chodwch i chwi ddelw gerfiedig, na cholofn, ac na roddwch ddelw faen yn eich tir i ymgrymu iddi: canys myfi yw yr ARGLWYDD eich DUW chwi. Fy Sabothau i a gedwch, a’m cysegr i a berchwch: myfi ydwyf yr ARGLWYDD. Os yn fy neddfau i y rhodiwch, a’m gorchmynion a gedwch, a’u gwneuthur hwynt; Yna mi a roddaf eich glaw yn ei amser, a rhydd y ddaear ei chynnyrch, a choed y maes a rydd eu ffrwyth. A’ch dyrnu a gyrraedd hyd gynhaeaf y grawnwin, a chynhaeaf y grawnwin a gyrraedd hyd amser hau; a’ch bara a fwytewch yn ddigonol, ac yn eich tir y trigwch yn ddiogel. Rhoddaf heddwch hefyd yn y tir, a gorweddwch hefyd heb ddychrynydd: a gwnaf i’r bwystfil niweidiol ddarfod o’r tir; ac nid â cleddyf trwy eich tir. Eich gelynion hefyd a erlidiwch, a syrthiant o’ch blaen ar y cleddyf. A phump ohonoch a erlidia gant, a chant ohonoch a erlidia ddengmil; a’ch gelynion a syrth o’ch blaen ar y cleddyf. A mi a edrychaf amdanoch, ac a’ch gwnaf yn ffrwythlon, ac a’ch amlhaf, ac a gadarnhaf fy nghyfamod â chwi. A’r hen ystôr a fwytewch, ie, yr hen a fwriwch chwi allan o achos y newydd. Rhoddaf hefyd fy nhabernacl yn eich mysg; ac ni ffieiddia fy enaid chwi. A mi a rodiaf yn eich plith; a byddaf yn DDUW i chwi, a chwithau a fyddwch yn bobl i mi. Myfi yw yr ARGLWYDD eich DUW, yr hwn a’ch dygais chwi allan o dir yr Aifft, rhag eich bod yn gaethweision iddynt; a thorrais rwymau eich iau, a gwneuthum i chwi rodio yn sythion.