Lefiticus 16:29-34
Lefiticus 16:29-34 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Mae hyn i fod yn rheol i chi bob amser: Bob blwyddyn, ar y degfed diwrnod o’r seithfed mis, dych chi i beidio bwyta a gwneud dim gwaith – pawb, yn bobl Israel ac unrhyw un arall sy’n byw gyda chi. Dyma’r diwrnod pan mae pethau’n cael eu gwneud yn iawn drosoch chi, a phan dych chi’n cael eich gwneud yn lân. Byddwch yn cael eich glanhau o’ch holl bechodau yng ngolwg yr ARGLWYDD. Mae i fod yn Saboth – yn ddiwrnod o orffwys – i chi, a rhaid i chi beidio bwyta. Fydd y rheol yma byth yn newid. Dim ond yr offeiriad sydd wedi’i gysegru a’i eneinio i gymryd lle ei dad fel archoffeiriad sydd i wneud pethau’n iawn, ac i wisgo’r wisg gysegredig o liain. Bydd yn gwneud y Lle Mwyaf Sanctaidd, y Tabernacl a’r allor yn lân, ac yn gwneud pethau’n iawn rhwng Duw a’r offeiriaid a phobl Israel i gyd. Mae hyn i fod yn rheol am byth. Unwaith y flwyddyn, bydd pethau’n cael eu gwneud yn iawn rhwng pobl Israel a Duw, a byddan nhw’n cael eu glanhau o’u holl bechodau.” Dyma Moses yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho.
Lefiticus 16:29-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Y mae hon yn ddeddf dragwyddol ichwi. Ar y degfed dydd o'r seithfed mis yr ydych i ymddarostwng, a pheidio â gwneud unrhyw waith, pa un bynnag ai brodor ai estron ydych, oherwydd ar y dydd hwn gwneir cymod drosoch i'ch glanhau; a byddwch yn lân o'ch holl bechodau gerbron yr ARGLWYDD. Saboth o orffwys ydyw, ac yr ydych i ymddarostwng; y mae'n ddeddf dragwyddol. Yr offeiriad a eneiniwyd ac a gysegrwyd yn offeiriad yn lle ei dad fydd yn gwneud cymod; bydd yn gwisgo dillad sanctaidd o liain, ac yn gwneud cymod dros y cysegr, pabell y cyfarfod a'r allor, a hefyd dros yr offeiriaid a holl bobl y gynulleidfa. Bydd hon yn ddeddf dragwyddol ichwi. Gwneir cymod unwaith y flwyddyn dros bobl Israel oherwydd eu holl bechodau.” Gwnaed fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.
Lefiticus 16:29-34 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A bydded hyn yn ddeddf dragwyddol i chwi: y seithfed mis, ar y degfed dydd o’r mis, y cystuddiwch eich eneidiau, a dim gwaith nis gwnewch, y priodor a’r dieithr a fyddo yn ymdaith yn eich plith. Oherwydd y dydd hwnnw y gwna yr offeiriad gymod drosoch, i’ch glanhau o’ch holl bechodau, fel y byddoch lân gerbron yr ARGLWYDD. Saboth gorffwystra yw hwn i chwi; yna cystuddiwch eich eneidiau, trwy ddeddf dragwyddol. A’r offeiriad, yr hwn a eneinio efe, a’r hwn a gysegro efe, i offeiriadu yn lle ei dad, a wna’r cymod, ac a wisg y gwisgoedd lliain, sef y gwisgoedd sanctaidd: Ac a lanha’r cysegr sanctaidd, ac a lanha babell y cyfarfod, a’r allor; ac a wna gymod dros yr offeiriaid, a thros holl bobl y gynulleidfa. A bydded hyn yn ddeddf dragwyddol i chwi, i wneuthur cymod dros feibion Israel, am eu pechodau oll, un waith yn y flwyddyn. Ac efe a wnaeth megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses.