Lefiticus 13:45-46
Lefiticus 13:45-46 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Rhaid i unrhyw un sydd â clefyd heintus ar y croen rwygo’i ddillad. Rhaid iddo adael i’w wallt hongian yn flêr, cuddio hanner isaf ei wyneb, a gweiddi ‘Dw i’n aflan! Dw i’n aflan!’ Bydd yn aflan tra mae’r afiechyd arno, a rhaid iddo fyw ar wahân i bawb, y tu allan i’r gwersyll.
Lefiticus 13:45-46 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Y mae'r sawl sy'n heintus o'r dolur hwn i wisgo dillad wedi eu rhwygo, gadael ei wallt yn rhydd, gorchuddio'i wefus uchaf a gweiddi, ‘Aflan, aflan!’ Y mae'n aflan cyhyd ag y bydd y dolur arno; y mae i fyw ar ei ben ei hun, a hynny y tu allan i'r gwersyll.
Lefiticus 13:45-46 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r gwahanglwyfus yr hwn y byddo pla arno, bydded ei wisgoedd ef wedi rhwygo, a’i ben yn noeth, a rhodded gaead ar ei wefus uchaf, a llefed, Aflan, aflan. Yr holl ddyddiau y byddo y pla arno, bernir ef yn aflan: aflan yw efe: triged ei hunan; bydded ei drigfa allan o’r gwersyll.